Afalau Cymru
£6.95
- Afalau Cymru
- Carwyn Graves
- ISBN: 9781845276805
- Cyhoeddi Medi 2018
- Fformat: Clawr Meddal, 150x155 mm
Bywgraffiad Awdur:
Carwyn Graves Mae gwreiddiau Carwyn ar goll rhywle rhwng Caerdydd a Sir Benfro, ac felly mae’n byw bellach gyda’i wraig a’i ferch yng Nghaerfyrddin. Ceisia ei orau i fod yn ŵr, tad, Cristion, garddwr a ieithydd, gan lwyddo o dro i dro. Carwyn oedd un o’r rhai ysgogodd y prosiect i greu perllan dreftadaeth o afalau cynhenid Cymreig yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol am y tro cyntaf. Agorir y berllan yn 2018.
Gwybodaeth Bellach:
‘Dagrau’r oes archfarchnadol ydy’r dewis cyfyng o afalau, gyda dim ond llond dwrn o ffrwythau unffurf, dyna’r drefn gwaetha’r modd. Ond mae gobaith y daw tro ar fyd, ac mae’r gyfrol hon yn arwydd o hynny. Mae’n blethiad o chwedl a hanes, a chawn olwg hefyd ar arferion gwledig a hyder di-ben-draw oes Fictoria, ac yn bennaf oll y canrifoedd o ymwneud pobl Cymru â’r afallen a’i ffrwythau.’ Gerallt Pennant
Product Code:
ISBN: 9781845276805