Alana Seren y Ddawns: Bollywood Amdani!
Disgrifiad | Description
- ISBN: 9781845273682
- Arlene Phillips
- Addaswyd/Cyfieithwyd gan Emily Huws
- Cyhoeddi Mehefin 2012
- Addas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2
- Fformat: Clawr Meddal, 200x128 mm, 130 tudalen
Mae Alana eisiau helpu Meena, ei ffrind gorau, i fynd i glyweliad sioe newydd o\'r enw Breuddwydion Bollywood. Ond dydyn nhw ddim yn siŵr eu bod yn gwneud y stepiau\'n gywir. Pwy all eu helpu? Wel, Madam Sera, wrth gwrs! Ar ôl i Alana roi\'r wisg Indiaidd ddisglair o siop Ffasiwn Steil amdani, caiff ei chwyrlïo yr holl ffordd i set ffilmio Bollywood yn India!
Y pedwerydd mewn cyfres gyffrous am ferched cynradd sy’n gwirioni ar ddawnsio. Mae awdur y gyfres, Arlene Philips, yn ddawnswraig a choreograffydd profiadol ac yn adnabyddus i wylwyr rhaglenni Strictly Come Dancing a So You Think You Can Dance?