Alana Seren y Ddawns: Samba Syfrdanol
Disgrifiad | Description
- ISBN: 9781845273149
- Arlene Phillips
- Cyhoeddi Mai 2011
- Addaswyd/Cyfieithwyd gan Emily Huws.
- Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2/3
- Fformat: Clawr Meddal, 196x128 mm, 12 tudalen
Mae 'na sioe ddawnsio Lladin bwysig ar fin cael ei chynnal yn Stiwdio Stepio. Ond dydi Alana ddim yn wych am ddawnsio'r samba. Ac mae ei mam wedi anghofio gwneud gwisg iddi. Mae'n gweld yr union wisg mae hi ei hangen yn Ffasiwn Steil, siop wisgoedd Madam Sera. Wedi ei rhoi amdani, caiff ei chwyrlïo mewn amrantiad i Frasil i ddawnsio mewn carnifal anhygoel!
Gwybodaeth Bellach:
Y gyntaf mewn cyfres newydd gyffrous am ferched cynradd sy’n gwirioni ar ddawnsio. Mae awdur y gyfres, Arlene Philips, yn ddawnswraig a choreograffydd profiadol ac yn adnabyddus i wylwyr rhaglenni Strictly Come Dancing a So You Think You Can Dance?.