Alun Wyn Bevan Atgofion Oes ymysg y Campau
Disgrifiad | Description
'Na, dydw i ddim eisiau ysgrifennu hunangofiant, meddai Alun Wyn Bevan, 'ond mae gen i lawer o atgofion rwy'n eu trysori o ymwneud â'r campau ar hyd fy oes.' Yn ystod ei fagwraeth ym Mrynaman, roedd yn byw gyferbyn â'r cae criced a phan oedd yn saith oed, roedd sêr tîm criced Morgannwg ymysg ei arwyr.
Gwybodaeth Bellach: Roedd ei dad-cu a’i dad yn dilyn chwaraewyr da fel Clem Thomas (yntau o Frynaman) a dyma ddechrau mynd â’r crwt i weld rhai o gemau rygbi gorau’r cyfnod.
Tyfodd Alun i fod yn ddyfarnwr rygbi, yna mynd ymlaen i sylwebu a chyflwyno rhaglenni chwaraeon ar S4C. Mae ganddo ddiddordeb brwd mewn pêl-droed, tennis, mabolgampau Olympaidd – ac mae wedi rhedeg sawl Marathon. Drwy’i atgofion, cawn ddod yn nes at y sêr a chlosio hefyd at wreiddiau’r campau yma yng Nghymru. |