Ar Lan y Môr y Mae
Disgrifiad | Description
- ISBN: 9781845272913
- Awdur: John Gwynne
- Cyhoeddi Gorffennaf 2010
- Fformat: Clawr Meddal, 184x121 mm, 276 tudalen
Nofel sy'n llawn cynnwrf, dirgelwch a chariad yw hon wrth i ddigwyddiadau'r presennol a'r gorffennol dorri ar draws heddwch a harddwch yr ardal a'r bobl sydd yn byw yno - gan newid bywydau dau ohonynt am byth.
Bywgraffiad Awdur:
Magwyd John Gwynne yng Ngheredigion ac aeth i Lundain i ddilyn cwrs yn y Brifysgol. Treuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa ym myd Masnach a Busnes ond bellach mae ef a’i wraig yn byw yn Wrecsam. Mae ganddo ddau o blant, un ŵyr ac un wyres. Hon yw ei nofel gyntaf.
Gwybodaeth Bellach:
‘Gwelodd fyd ei ieuenctid yn gwrthdaro yn erbyn ei fyd presennol.’
Pwy yw’r Sais rhyfedd sydd newydd symud i fewn i Awel Deg ym Mhwll Gwyn a beth yw ei gysylltiad â chorff y ferch ifanc a gafodd ei ddarganfod y bore canlynol ar y creigiau sy’n agos at ei gartref dros dro? Beth yn union yw hanes Alun Morgan a beth yw ei gysylltiad â’r ardal wledig ger arfordir Ceredigion?