Arwyr
Disgrifiad | Description
- Arwyr
- ISBN: 9781845276584
- Daniel Davies
- Cyhoeddi Gorffennaf 2018
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm
Bywgraffiad Awdur:
Daw Daniel Davies o Lanarth yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn Penrhyn-coch, ger Aberystwyth. Ymysg ei nofelau mae Gwylliaid Glyndŵr (2007), Hei-Ho! (2009) ac Allez Les Gallois! (2016). Enillodd ei gyfrol Tair Rheol Anrhefn Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro yn 2011, a daeth Yr Eumenides (cyhoeddwyd 2017) yn agos i’r brig yn yr un gystadleuaeth yn 2016.
Gwybodaeth Bellach:
Mae hanes arwyr Cymru yn wybyddus i ni gyd ... on’d yw e? • Beth oedd ffawd y pedwar a ddychwelodd o Gatraeth yn dilyn cyflafan y Gododdin? • Pwy oedd yn gyfrifol am Gyfraith Hywel Dda mewn gwirionedd? • Beth oedd cyfrinach llwyddiant y bardd Dafydd ap Gwilym? • ... heb sôn am Llywelyn ein Llyw Olaf, William Morgan a Merched Beca ...