Atgofion drwy Ganeuon: Llawenydd heb Ddiwedd - Y Cyrff

Atgofion drwy Ganeuon: Llawenydd heb Ddiwedd - Y Cyrff

Disgrifiad | Description

  • Atgofion drwy Ganeuon: Llawenydd heb Ddiwedd - Y Cyrff
  • ISBN: 9781845276928 Owain Schiavone, Toni Schiavone, Y Cyrff
  • Cyhoeddi Awst 2019
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm
Atgofion drwy ganeuon 'Y Cyrff'. Cyfeirir yn aml y dyddiau hyn fod caneuon Y Cyrff o Lanrwst yn yr 1980au a dechrau'r 1990au yn drac sain i genhedlaeth gyfan o ddilynwyr y Sin Roc Gymraeg. Ffrwydrodd eu cân anthemig, 'Cymru, Lloegr a Llanrwst' i galon eu torf o ddilynwyr yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy a'r Cyffiniau yn 1989.

Gwybodaeth Bellach:
Nid dim ond band oedd Y Cyrff, roedden nhw’n llawer mwy na hynny i lawer iawn o bobl. Roedd Barry, Mark, Paul a Dylan, ac yn ddiweddarach Mark Kendall, yn wahanol i’r mwyafrif o grwpiau roc Cymraeg yn y 1980au. Hogia dre Llanrwst oedden nhw’n hytrach na grŵp oedd wedi ffurfio yn y Coleg ac roedden nhw’n gyfan gwbl o ddifrif am eu cerddoriaeth.

Nid dim ond llyfr am hanes Y Cyrff ydy’r gyfrol yma chwaith. Mae’r grŵp yn ganolog i’r stori, ond mae hefyd yn astudiaeth o rai o themâu mawr cyfnod penodol a difyr yn hanes Cymru a thu hwnt – gwleidyddiaeth, diwydiant, crefydd, cariad (?) a diwylliant cyfoes. Cawn weld hyn oll trwy lygaid, trwy eiriau caneuon ac yng nghwmni sain grŵp unigryw, dylanwadol ac ym marn nifer, y gorau erioed o Gymru. ‘Bodoli yw yr ystyr...’

Pris | Price : £9.50

Nifer | Amount :

Gwasg Carreg Gwalch
12 Iard yr Orsaf
Llanrwst
Dyffryn Conwy
LL26 0EH
01492 642031
llanrwst@carreg-gwalch.cymru

© Hawlfraint 2018 - Gwasg Carreg Gwalch - Gwefan gyda Delwedd

Pay with VisaPay with MastercardPay with MaestroPay with JCB

[ekm:poweredby]

Top

Cwsmeriaid | Customers