Awyr yn Troi'n Inc, Yr
Disgrifiad | Description
- Martin Huws
- ISBN: 9781845276768
- Cyhoeddi Gorffennaf 2018
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 152 tudalen
Bywgraffiad Awdur:
Daw Martin Huws yn wreiddiol o Gaerdydd. Mae wedi bod yn weithiwr dur, yn swyddog clerigol ac yn ofalwr shifft. Pan oedd yn newyddiadura ar y Western Mail, Y Byd ar Bedwar a Week In Week Out, enillodd wobrau Cymreig a Phrydeinig. Mae’n nofelydd ac yn fardd cadeiriol a choronog.
Gwybodaeth Bellach:
Mae agwedd yr awdur atyn nhw’n onest, yn llawn empathi, yn ddisentiment. A’i arddull yn ffresh ac uniongyrchol. Hwn yw cyfarwydd y ddinas fodern gan fod dyfnder ystyr o dan ei gynildeb crefftus. Yn y straeon amrywiol fe lwydda i fynegi lleisiau’r rhai ‘sy heb lais’. Daeth yn ail yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Môn a dywedodd y beirniaid: ‘Dyma gyfrol fwyaf arloesol a dewr y gystadleuaeth, yn sicr: ai drama yw hi, neu ryddiaith, neu gerdd? ... Roedd rheolaeth yr awdur ar ei gyfrwng yn absoliwt.’ Francesca Rhydderch ‘... roedd hi’n amlwg o’r cychwyn fod yma lenor a wyddai’n union yr hyn yr oedd yn ceisio’i wneud ...Mae yna fydoedd wedi eu crynhoi i’r storïau hyn, neuaddau mawr rhwng cyfyng furiau. Gerwyn Wiliams ‘Mae rhywbeth prin i’w ganfod yn y gyfrol hon o straeon byr iawn. Dotiais at y ffurf wahanol rywle rhwng stori fer, llên micro a drama, sy’n cynnig lefel ffres o gynildeb ac yn dibynnu’n bennaf ar ddeialogi ... Mae eu brawddegau cwta a’u cynildeb ingol yn celu fflach o ddyfnder yn y “prin-ddweud” ... Lleucu Roberts