Beirdd Ffosydd y Gwledydd Celtaidd 1914-18
Disgrifiad | Description
- ISBN: 9781845274818
- Cyhoeddi Gorffennaf 2014
- Golygwyd gan Myrddin ap Dafydd
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 230 tudalen
Cafodd amryw ohonynt eu creu yn y pen a’u cadw ar gof a’u rhoi ar bapur yn ddiweddarach – roedd barddoniaeth yn gyfrwng addas ar gyfer amgylchiadau o’r fath. Hiraeth a breuddwydion y bechgyn yn y ffosydd; golwg onest a dychanol weithiau ar y peiriant rhyfela a gwerthfawrogi cwmni a chyfeillgarwch – dyna rai o themâu y cerddi hynny.
Mae’r gyfrol hon yn cyhoeddi gwaith nifer o filwyr o’r gwledydd Celtaidd, y rhan fwyaf ohonynt yn canu yn eu mamiaith. Oherwydd hynny mae’u lleisiau wedi’u hanwybyddu gan lenyddiaethau’r gwladwriaethau mawrion. Eto, mae tinc gwahanol ac unigryw i’w cerddi a’u caneuon – does dim dwywaith eu bod yn canu fel Celtiaid, yn rhannu hen wreiddiau cynharaf yr Ewrop oedd yn cael ei darnio ar faes y gad.
Collwyd cymaint yn ffosydd y Rhyfel Mawr, ac mae hiraeth a galar i’w glywed yn boenus ar dudalennau’r gyfrol hon. O’r gweddillion, cododd gwledydd newydd oedd yn fwy penderfynol o reoli eu tynged eu hunain yn y dyfodol. Wrth i rai o ymerodraethau mawrion Ewrop chwalu, daeth gobaith a gwawr newydd i hen ddiwylliannau’r Celtiaid.