Bodyn Blewog a Sgerbwd Cegog (Gwalch Balch: 2)

Bodyn Blewog a Sgerbwd Cegog (Gwalch Balch: 2)

Disgrifiad | Description

  • ISBN: 9780863819292
  • Awdur: Rose Impey
  • Cyhoeddi Hydref 2004
  • Darluniwyd gan Hilda Offen
  • Addaswyd/Cyfieithwyd gan Emily Huws.
  • Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 1/2
  • Fformat: Clawr Meddal, 194x127 mm, 64 tudalen

Addasiad Cymraeg o Hairy Toes and Scary Bones, sef dwy stori arswyd draddodiadol o'r Amerig a'r Eidal; i ddarllenwyr 7-9 oed. 48 llun du-a-gwyn.

Adolygiad Gwales
Defnyddiwyd y geiriau chwedlonol a thelynegol unwaith i ddisgrifio iaith Rose Impey, ac i addasydd cyffredin byddai’r dasg o drosglwyddo naws ei harddull unigryw i’r Gymraeg yn sialens – ond nid i grefftwraig fel Emily Huws.
Unwaith eto llwyddodd yr awdures cwbl arbennig hon i greu’r argraff ein bod yn darllen darn o waith gwreiddiol. Ond gair o rybudd. Peidiwch â darllen y ddwy stori yma yn eich gwely â dim ond lamp fechan yn goleuo’r ystafell, oherwydd gallaf eich sicrhau y byddwch yn hir iawn cyn syrthio i gysgu!

Gareth Wiliam Jones

Pris | Price : £3.99

Nifer | Amount :

Gwasg Carreg Gwalch
12 Iard yr Orsaf
Llanrwst
Dyffryn Conwy
LL26 0EH
01492 642031
llanrwst@carreg-gwalch.com

© Hawlfraint Gwasg Carreg Gwalch - Gwefan gan Delwedd