Canfas, Cof a Drws Coch
Disgrifiad | Description
- ISBN: 9781845273347
- Awdur: Anthony Evans
- Cyhoeddi Mai 2011
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm
Disgrifiad Gwales
Mae gan Anthony Evans arddull arbennig wrth baentio - mae'n creu cynfas dywyll ac yna yn ychwanegu'r lliwiau golau. Mae hynny yn cyd-fynd â'i athroniaeth hefyd, meddai: 'Mae arlunwyr yn gweithio o'r tywyllwch i'r goleuni'. Gall hynny fod yn wir am fyd busnes a byd yr hunan-gyflogedig yn ogystal - rhaid rhoi naid mewn ffydd i'r tywyllwch a gweithio at y golau yn y pen arall.
Gwybodaeth Bellach:
Bu Anthony yn athro ac mae’n sylweddoli bod pwysau academaidd o fewn y gyfundrefn addysg, a’i bod hi’n anodd i berson ifanc fod yn gredadwy wrth greu cynllun busnes iddo’i hun sy’n ddibynnol ar ddawn a dychymyg. Mae’n gweld nad yw cyrsiau celf y colegau yn gwneud digon i roi seiliau busnes ochr yn ochr â’r hyfforddiant celfyddydol fel y medr y talentau ifanc droi eu crefft yn ffon fara.
Sefydlodd Anthony a nifer o artistiaid eraill oriel gydweithredol yn Nhreganna, Caerdydd ac mae’n teithio Cymru yn rheolaidd yn braslunio golygfeydd, mynd â’i waith i wahanol orielau a threfnu arddangosfeydd. Mae’n rhannu ei brofiadau am grefft a busnes byd celf yn y gyfrol hon.