Canu Clod y Campau - Detholiad o Farddoniaeth y Maes Chwarae

Canu Clod y Campau - Detholiad o Farddoniaeth y Maes Chwarae

Disgrifiad | Description

  • ISBN: 9781845272432
  • Cyhoeddi Hydref 2009
  • Golygwyd gan Lowri Roberts
  • Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 160 tudalen

Ar hyd y canrifoedd mae Cymru wedi meithrin unigolion sydd wedi ein cyfareddu ni gyda'u doniau a'u gorchestion ym myd y campau. Yn y gyfrol hon ceir detholiad o gerddi, gan amrywiol feirdd, sy'n canu clodydd yr unigolion hynny - o Colin Jackson i Tommy Farr, Ryan Giggs i Nicole Cook.

Bywgraffiad Awdur:
Mae Lowri yn byw yn Y Groesfaen ger Llantrisant gyda’i gŵr Dafydd a’u plant Gwenno ac Ifan. Mae’n gweithio fel newyddiadurwr i raglen ‘Newyddion’ BBC Cymru. Cyn hynny bu’n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth lle enillodd radd doethur ar y pwnc ‘Chwaraeon mewn Llenyddiaeth Gymraeg’, sy’n sail i’r gyfrol hon.
Gwybodaeth Bellach:
Mae’r cerddi yn adlewyrchiad o’n diwylliant ni fel Cymry ac yn gyfraniad pwysig at ein hanes cymdeithasol fel cenedl.

Pris | Price : £8.50

Nifer | Amount :

Gwasg Carreg Gwalch
12 Iard yr Orsaf
Llanrwst
Dyffryn Conwy
LL26 0EH
01492 642031
llanrwst@carreg-gwalch.cymru

© Hawlfraint 2018 - Gwasg Carreg Gwalch - Gwefan gyda Delwedd

Pay with VisaPay with MastercardPay with MaestroPay with JCB

Top

Cwsmeriaid | Customers