Ceidwad y Mynydd - Atgofion Warden yr Wyddfa
£8.50
- Ceidwad y Mynydd - Atgofion Warden yr Wyddfa
- ISBN: 9781845276997
- Aled Taylor
- Cyhoeddi Hydref 2019
- Golygwyd gan Tudur Huws Jones
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 198 tudalen
Gwybodaeth Bellach:
Bu Aled 'Còch' Taylor yn aelod o Dîm Achyb Mynydd Llanberis am bron i ddeugain mlynedd, ac yn Warden i Barc Cenedlaethol Eryri am gyfran helaeth o’i yrfa. Yr Wyddfa a’i chriw oedd ei batsh, a does fawr neb yn adnabod y llethrau’n well na fo.
Wrth edrych yn ôl dros ei fywyd, mae Aled yn dwyn i gof mor gyntefig oedd yr offer achub cynharaf, a gwaith mor anodd oedd cario cleifion i lawr o’r mynyddoedd. Cawn gipolwg ar rai o’r achubiadau sy’n aros yn ei gof a’r gwaith hanfodol sy’n cael ei wneud gan y Parc Cenedlaethol i sicrhau bod modd i ni i gyd fwynhau cerdded a dringo mynydd uchaf Cymru … cyn belled â’n bod ni’n paratoi yn drylwyr cyn cychwyn, wrth gwrs!
‘Gwnaeth filoedd o gymwynasau a chafodd bleser digymysg ar y llechweddau.’ Dei Tomos
Product Code:
ISBN: 9781845276997