Ceiliog Dandi

Ceiliog Dandi

Disgrifiad | Description

  • Ceiliog Dandi
  • ISBN: 9781845277444
  • Daniel Davies
  • Cyhoeddi Gorffennaf 2020
  • Fformat: Clawr Meddal, 199x128 mm, 214 tudalen

Dafydd ap Gwilym, un o feirdd gorau ein cenedl ... ond oedd e?

Bywgraffiad Awdur: Daw Daniel Davies o Lanarth yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn Penrhyn-coch, ger Aberystwyth. Ymysg ei nofelau mae Gwylliaid Glyndŵr (2007), Hei-Ho! (2009), Allez Les Gallois! (2016) ac Arwyr (2018). Enillodd ei gyfrol Tair Rheol Anrhefn Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro yn 2011, a daeth Yr Eumenides (cyhoeddwyd 2017) yn agos i’r brig yn yr un gystadleuaeth yn 2016.

Gwybodaeth Bellach: Gan fy mod i, Dafydd ap Gwilym, yn un o feirdd gorau Cymru ‒ ac yn bwysicach, wrth gwrs, yr enwocaf – rydych chi’n siŵr o fod yn awyddus iawn i wybod mwy amdanaf.Dyma i chi felly ran gyntaf fy hunangofiant, lle rwy’n dinoethi rhai o’m cyfrinachau mwyaf ffrwydrol: Fy giamocs carwriaethol gyda Morfudd a Dyddgu · Y gwir am lofruddiaeth y clerwr, Rhys Meigen · Fy ymddygiad gwrol yn y frwydr enwog rhwng Lloegr a Ffrainc yn Crécy · Fy mherthynas dymhestlog gyda’r beirdd Iolo Goch a Madog Benfras · Y rhan allweddol a chwaraeais yn nhalwrn rhyngwladol cyntaf Ewrop. Rydw i hefyd yn rhannu fy marn am farddoniaeth, athroniaeth, cariad, rhyfela a mwy ... llawer mwy. ‘Heresi lwyr.’ – Henry de Gower, Esgob Tyddewi ‘Llosgwch y llyfr… a’r awdur … Nawr.’ – Pab Clement VI ‘Llyfr eithaf boddhaol. Lluniau digon derbyniol.’ – Madog Benfras, bardd

Pris | Price : £8.00

Nifer | Amount :

Gwasg Carreg Gwalch
12 Iard yr Orsaf
Llanrwst
Dyffryn Conwy
LL26 0EH
01492 642031
llanrwst@carreg-gwalch.cymru

© Hawlfraint 2018 - Gwasg Carreg Gwalch - Gwefan gyda Delwedd

Pay with VisaPay with MastercardPay with MaestroPay with JCB

[ekm:poweredby]

Top

Cwsmeriaid | Customers