Cerddi Evan James/The Author of Our Anthem
Disgrifiad | Description
- ISBN: 9781845272395
- Awdur: Gwyn Griffiths
- Cyhoeddi Hydref 2009
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 160 tudalen
Yn 2006, cofnododd Gwyn Griffiths hanes cyfansoddi 'Hen Wlad Fy Nhadau'. Tro Evan James, awdur geiriau'r Anthem, yw hi nawr. Ceir yn y gyfrol hon hanes ei fywyd a'r holl waith oedd mewn perygl o fynd yn anghofiedig.
Bywgraffiad Awdur:
Yr oedd Evan James, awdur geiriau Hen Wlad Fy Nhadau, y dethlir dau canmlwyddiant ei eni eleni (2009) yn ŵr arbennig iawn. Roedd yn fardd toreithiog a chynganeddwr rhwydd gyda diddordeb dwfn yn hanes ei wlad a materion ei ddydd. Bu’n dafarnwr a gwehydd ac roedd yn wneuthurwr telynau. Roedd yn eisteddfodwr brwd, yn weithgar yn Urdd yr Iforiaid ac aelod o Orsedd liwgar Morgannwg a Gwent yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae’r cerddi, y Rhagymadrodd ysgolheigaidd, ynghyd â’r detholiad o alawon y lluniodd Evan James eiriau iddynt sydd yn y gyfrol, yn rhoi darlun o’r hen Forgannwg a Gwent wledig, Gymraeg ei hiaith, lengar, diwylliedig a llawen cyn y Seisnigeiddio ddaeth yn sgîl y Chwyldro Diwydiannol.
Yn 2006 cofnododd Gwyn Griffiths, a dreuliodd fel Evan James flynyddoedd o’i fywyd ym Mhontypridd, hanes cyfansoddi Hen Wlad Fy Nhadau. Tro Evan yw hi nawr, ei fywyd a’r holl waith oedd mewn perygl o fynd yn anghofiedig.