{"title":"Ann Fychan","description":null,"products":[{"product_id":"beth-am-gynnau-tan","title":"Beth am Gynnau Tân","description":"\u003cp\u003eNid cyfrol o farddoniaeth arferol yw hon. Roedd bywyd a gwaith Ann a’i rhan flaenllaw yng ngweithgarwch diwylliannol dyffrynnoedd Twymyn a Dyfi a thu hwnt yn rhan annatod o’i gyrfa lenyddol. Mae egni’r tân oedd ynddi at ein pethau gorau i’w glywed yn ei cherddi a’i phenillion. Tân i ysgogi fflam mewn eraill oedd ganddi a darnau a gyflwynwyd ar lafar yw cyfran helaeth o’i gwaith.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eGan fod ei barddoniaeth wedi’i llunio i gysylltu’n uniongyrchol â’i chynulleidfa, boed honno yn gynulleidfa leol neu gynulleidfa genedlaethol talyrnau ar y radio a’r teledu, mae’n waith hygyrch y gellir ymateb iddo ar y pryd. Eto, mae’n haeddu mwy nag un darlleniad. Awen delynegol oedd gan Ann ac mae haenau o brofiadau mewn rhai llinellau ar yr wyneb yn syml.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMae’r gyfrol hon yn gyfuniad o gofiant a barddas, ac o’r herwydd yn cynnwys crynodeb o’i chefndir fel bardd ynghyd â lluniau a phytiau o waith hunangofiannol yn ogystal â barddoniaeth.\u003c\/p\u003e\n\u003cul\u003e\n\u003cli\u003eISBN: 9781845248000\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003eAwdur: Ann Fychan\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003eCyhoeddi: Gorffennaf 2026\u003c\/li\u003e\n\u003c\/ul\u003e","brand":"Gwasg Carreg Gwalch","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":57341852090743,"sku":null,"price":8.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0795\/2370\/9229\/files\/BethamGynnauTan-clrAnnFychan1Meh26.jpg?v=1785350053"}],"url":"https:\/\/carreg-gwalch.cymru\/collections\/ann-fychan.oembed","provider":"Gwasg Carreg Gwalch","version":"1.0","type":"link"}