{"title":"Llio Elain Maddocks","description":"","products":[{"product_id":"y-gwir-yn-erbyn-y-byd","title":"Y Gwir yn Erbyn y Byd","description":"\u003cp\u003eGan fod Ceri wedi symud i fyw i dde Cymru gyda’i mam ar ganol tymor ysgol, yn dilyn Y\u003cbr\u003eDigwyddiad, mae pethau’n anodd iddi yn ei hysgol newydd. Nid yw cyngor ei mam i gadw\u003cbr\u003edyddiadur yn help o gwbl. Ond pan gaiff y dosbarth Hanes dasg i greu prosiect ymchwil ar\u003cbr\u003eIolo Morganwg, mae Ceri’n dysgu cymaint amdani hi ei hun ag y mae hi am y cymeriad\u003cbr\u003ehanesyddol hynod.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eNofel yw hon sy’n gwau ffaith a ffuglen, hanes a hiwmor, drwy blethu dyddiadur cyfoes\u003cbr\u003eCeri gyda’r prosiect hanes. Wrth gyflwyno anturiaethau Iolo Morganwg, mae’r awdur yn\u003cbr\u003edangos y gall hanes fod yn ddrych i fywydau a phrofiadau Cymry ifanc heddiw.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eLLIO ELAIN MADDOCKS Bardd ac awdur sy’n wreiddiol o Lan Ffestiniog. Mae wedi\u003cbr\u003ecyhoeddi llyfrau i blant ac oedolion, ac mae nifer o’i cherddi i’w gweld ar y\u003cbr\u003ecyfryngau cymdeithasol ac mewn gwahanol gyfrolau.\u003cbr\u003eYn ei gwaith bob dydd, mae hi’n Gyfarwyddwr y Celfyddydau gydag Urdd\u003cbr\u003eGobaith Cymru, ac yn gyfrifol am gynnig profiadau celfyddydol drwy’r Gymraeg i\u003cbr\u003eblant a phobl ifanc ar draws Cymru.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cbr\u003eMEI MAC Mae'n gartwnydd dawnus ac eisoes wedi gwneud gwaith i'r Wasg gan\u003cbr\u003egynnwys darlunio Chwedlau'r Pysgod a Harri Puw a'r Bocs Breuddwydion, yn yr\u003cbr\u003earddull yma. Ef fu'n gyfrifol am glawr Y Ferch ar y Cei, ac am ddarlunio Straeon\u003cbr\u003eHynod yn ein Hanes.\u003c\/p\u003e","brand":"Gwasg Carreg Gwalch","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":57255324582263,"sku":null,"price":8.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0795\/2370\/9229\/files\/YGwirynErbynyByd-LoRes.jpg?v=1782998394"}],"url":"https:\/\/carreg-gwalch.cymru\/collections\/llio-elain-maddocks.oembed","provider":"Gwasg Carreg Gwalch","version":"1.0","type":"link"}