Cryfder ar y Cyd

ISBN: 9781845273811
Cyhoeddi Mai 2012
Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm

Mae\'r gyfrol hon yn adrodd hanes chwech o fentrau cymunedol cydweithredol. Gan ddechrau gyda hanes y Moto Coch, cawn hanes sefydlu siop (Llithfaen), garej (Clynnog-fawr), tafarn (Y Fic, Llithfaen), canolfan waith (Antur Aelhaearn) a chanolfan iaith (Gwrtheyrn) - i gyd o fewn ychydig filltiroedd i\'w gilydd.

Mentrau cydweithredol Bro\'r Eifl
Mae traddodiad o gymdeithas gydweithredol er mwyn sicrhau adnoddau diwylliannol ac economaidd yn gryf mewn hen ardaloedd diwydiannol – ac mae hynny’n arbennig o wir am fro chwareli ithfaen yr Eifl ar arfordir gogleddol Llŷn.

Yr hyn sy’n hynod am y pentrefi yn ardal yr Eifl yw bod yr elfen gydweithredol wedi cael bywyd newydd yn ystod chwarter olaf yr ugeinfed ganrif ac mae’r gyfrol hon yn adrodd hanes pump o fentrau cymunedol cydweithredol y fro. Cawn hanes sefydlu siop (Llithfaen), garej (Clynnog-fawr), tafarn (Y Fic, Llithfaen), canolfan waith (Antur Aelhaearn) a chanolfan iaith (Nant Gwrtheyrn) – i gyd o fewn ychydig filltiroedd i’w gilydd. Mae’r hanes yn ddarlun gwych o gymdeithas yn gwrthod ildio i wasgfeydd economaidd allanol, a phenderfynu sefyll ar ei thraed ei hun.

Yn Ebrill 2012, mae cwmni bysys Clynnog a Threfor yn dathlu’i ganmlwyddiant. Mae’n gwmni llewyrchus, gyda deg a thrigain o fysys a hanner cant o staff, wedi’i leoli wrth droed yr Eifl yn hen bentref chwarelyddol Trefor. Ychydig sy’n sylweddoli mae’n debyg mai cwmni cydweithredol cymunedol ydi’r fenter, sy’n cael ei adnabod yn annwyl ar lafar gwlad fel ‘Y Moto Coch’.

Yn Nhrefor hefyd mae’r ‘Clwb Bach’ – menter gymunedol eto sy’n gweithredu fel tafarn i’r pentref. Rownd y gornel mae’r ‘Stôr’, sef yr hen ‘go-op’ – unig siop y pentref. Fel mewn sawl ardal ddiwydiannol arall, gwyddai pentrefwyr yr Eifl fod yn rhaid iddynt reoli eu heconomi eu hunain os oeddent am fywyd gwell – a dyna pam fod ysbryd y mentrau cydweithredol wedi gafael mor gryf yno.
 
Product Code: ISBN: 9781845273811