Dan yr Wyneb
Disgrifiad | Description
- Dan yr Wyneb
- ISBN: 9781845274047
- John Alwyn Griffiths
- Cyhoeddi Ionawr 2019
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 312 tudalen
Adolygiad Gwales
Saith egwyddor bywyd cyhoeddus? Byddai’r Arglwydd Nolan yn troi yn ei fedd.
Er gwaethaf eu statws fel dinasyddion parchus a gweision cymdeithas, mae egwyddorion megis anhunanoldeb, unplygrwydd, gwrthrychedd, atebolrwydd, tryloywder, gonestrwydd ac arweinyddiaeth yn gwbl ddieithr i rai o gymeriadau’r nofel fachog hon.
Un egwyddor sydd gan Gadeirydd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Glanaber, Gwynfor Jones, ac edrych ar ôl ei fuddiannau ei hun yw honno. Yn ei ddichell a’i gynllwynio mae’n rhwydo eraill i’w fagl, ac yn cynghreirio â grymoedd pwerus er lles ei fuddiannau a’i gynlluniau ei hun.
Ardal go wledig yng ngogledd Cymru yw Glanaber; mae ganddi arfordir prydferth a ffermydd tlodaidd sy’n cael eu gorfodi i arallgyfeirio a throi at dwristiaeth i geisio cadw dau ben llinyn ynghyd. Beth allai fod yn well i’r ardal na marina? Byddai datblygiad fel hyn yn denu buddsoddiad, yn arwydd o hyder yn yr ardal ac yn fuwch gynhyrchiol i’w godro am gyflogaeth a chynhaliaeth am flynyddoedd. Swnio’n gyfarwydd, on’d ydi? Wrth ddarllen, ni allwn ond gobeithio mai dychymyg byw sydd gan John Alwyn Griffiths, ac nad yw wedi cloddio i’w orffennol fel pennaeth Adran Twyll Heddlu Gogledd Cymru i ddod o hyd i ddeunydd ar gyfer y nofel.
Gan fod datblygiad fel marina yn amlwg yn denu cyllid o du’r Cynulliad, pan ddaw sïon nad yw pob dim fel y dylai fod ym Mae Caerdydd, caiff swyddog o’r adran gyfreithiol ei anfon i ymchwilio. Dylai Meurig Morgan allu ymdopi’n iawn â’r gwaith, ond mae ganddo yntau orffennol digon anodd a rhaid iddo ddod i delerau â’r gorffennol hwnnw a’i gysylltiadau ei hun â’r ardal cyn gallu gweithredu’n effeithiol.
Efallai mai ardal wledig yw Glanaber, does dim byd yn araf a hamddenol am y nofel hon. Gydag un cynllwyn yn dilyn y llall, a neb yn gwybod yn iawn pwy i ymddiried ynddo, mae digon yma i gadw’r darllenydd yn gaeth, yn awyddus i wybod y tro nesaf yn yr hanes, a beth fydd tynged y cast brith o gymeriadau.
Dyma chwip o nofel, sy’n symud yn gyflym ond yn hyderus ac yn ddifyrrwch pur. Efallai fod ambell elfen yn orddramatig, ond does dim nad yw’n gweddu i’r genre. Darllenwch, mwynhewch ... a gweddïwch mai ffuglen yw’r cyfan.
Catrin Beard