Ddraig yn y Cestyll, Y

  • Ddraig yn y Cestyll, Y
  • ISBN: 9781845276812
  • Myrddin ap Dafydd
  • Cyhoeddi Mawrth 2019
  • Darluniwyd gan Chris Lliff
  • Fformat: Clawr Meddal, 210x210 mm, 84 tudalen
Mae Gwen a Gruff yn wynebu ymgyrch heriol! Maen nhw'n ymweld ag ugain o gestyll ledled Cymru. Yn gydymaith iddynt mae hen faner Mam-gu - Draig Goch sy'n golygu llawer iddi.

Gwybodaeth Bellach:
Yn y blog maen nhw'n ei gofnodi ar eu teithiau, cawn gip ar arwyddocâd y cestyll yn hanes Cymru a thipyn o'r hwyl sy'n codi o droeon trwstan ac o gyfarfod cymeriadau arbennig yn ystod y teithiau. Ceir ymateb i'r blog gan Nain/Taid/Tad-cu/Mam-gu a mêts y ddau blentyn.

Cestyll Cymru
Mae pob castell yng Nghymru yn destun rhyfeddod – ac yn llawn dirgelwch a hanesion. Mae rhai ohonynt yn rhan o Safle Treftadaeth Byd cyntaf Cymru – cestyll Biwmares, Caernarfon, Conwy a Harlech. Daeth penseiri a pheirianwyr gorau Ffrainc yma i greu campweithiau mewn cerrig yn y cyfnod Normanaidd. Bu bron i’r hwch fynd drwy siop Edward I gan eu bod yn godro cymaint o arian o’i bwrs brenhinol. Mae cestyll eraill wedi’u codi gan dywysogion Cymreig i amddiffyn eu tiroedd a’u pobl yn eu rhyfel 200 mlynedd yn erbyn y Normaniaid.

Mae 800 mlynedd o hanes Cymru yn y cestyll hyn. Mae gan bob un ei stori ei hun yn ogystal. Yn y gyfrol hon, mae lluniau a darluniau lliw a naratif sy’n troi o amgylch ymweliadau un teulu ag 20 o gestyll Cymreig yn cyflwyno rhyfeddodau’r safleoedd a hefyd yn adrodd yr hanesion sy’n perthyn iddyn nhw. Mae nodweddion pensaernïol y cestyll yn cael eu dangos a’u hesbonio – e.e. barbican, garderobe, tourelle. Cawn hanes y brenhinoedd a’r arglwyddi Normanaidd oedd yn gymaint rhan o bresenoldeb y cestyll yng Nghymru. Ond yn ogystal, mae’r plant, wrth ymweld â’r cestyll, yn dod ar draws hanesion coll a thraddodiadau cudd am y Cymry a’r gymdeithas leol.