Deg o Chwedlau Dyffryn Conwy

Deg o Chwedlau Dyffryn Conwy

Disgrifiad | Description

  • Deg o Chwedlau Dyffryn Conwy
  • ISBN: 9781845277086
  • Myrddin ap Dafydd
  • Cyhoeddi Gorffennaf 2019
  • Darluniwyd gan Lleucu Gwenllian
  • Fformat: Clawr Meddal, 210x210 mm
Mae Dyffryn Conwy'n frith o chwedlau – tybed a glywsoch chi am hanes yr afanc dychrynllyd, neu am felltith y forforwyn ar gei Conwy? A sut ar y ddaear y cafodd llefydd fel Cadair Ifan Goch a Llansantffraid Glan Conwy eu henwau? Mae haenau o hanes yn cuddio dan wyneb rhai o'r straeon yma, a gwirioneddau a ffeithiau mewn gwisg o hud a lledrith.

Tabl Cynnwys:
Yn cynnwys:
Hen Dylluan Cwm Cowlyd
Llys Helig
Ifan Goch a'i Gi
Llyn yr Afanc
Taliesin Glan Geirionydd
Y Forforwyn a Chei Conwy
Y Telynor yn y Gors Santes Ffraid a'r brwyniaid
Carw Angau
Rhys Fawr a'r Ddraig Goch

Gwybodaeth Bellach:
Mae’r pwyslais ar chwedlau Cymru yn ddiweddar wedi dod â hen straeon traddodiadol yn nes at blant unwaith eto, gyda’r thema yn cael ei defnyddio’n helaeth ledled y wlad. Mae’r casgliad hwn yn canolbwyntio ar un ardal: Dyffryn Conwy.

Yn y gyfrol hon, adroddir y chwedlau gan gyflwyno’r ddaearyddiaeth a’r cefndir hanesyddol yn ogystal. Mae modd ymateb i’r straeon traddodiadol yn greadigol – a chynhwysir cerddi a grewyd gyda phlant ysgol yr ardal.

Darlunir y gyfrol gan Lleucu Gwenllian, sy’n dalent newydd ac yn dod â naws arbennig a lliwgar i’r hen chwedlau, gan cadw tirwedd a natur Dyffryn Conwy yn nychymyg y darllenwyr.

Pris | Price : £6.95

Nifer | Amount :

Gwasg Carreg Gwalch
12 Iard yr Orsaf
Llanrwst
Dyffryn Conwy
LL26 0EH
01492 642031
llanrwst@carreg-gwalch.cymru

© Hawlfraint 2018 - Gwasg Carreg Gwalch - Gwefan gyda Delwedd

Pay with VisaPay with MastercardPay with MaestroPay with JCB

[ekm:poweredby]

Top

Cwsmeriaid | Customers