Diawl Bach Lwcus (Atgofion drwy Ganeuon)

Diawl Bach Lwcus (Atgofion drwy Ganeuon)

Disgrifiad | Description

  • Atgofion drwy Ganeuon: Diawl Bach Lwcus
  • ISBN: 9781845277215
  • Geraint Davies
  • Cyhoeddi Hydref 2019
  • Fformat: Clawr Meddal, 199x128 mm, 150 tudalen
Atgofion drwy ganeuon Geraint Davies. Yn wyth mlwydd oed, cwympodd Geraint Davies mewn cariad â chanu pop a roc. Ac mae yna stori bersonol neu ffrwyth dychymyg, y tu ôl i bob cân...

Gwybodaeth Bellach:
Yn wyth mlwydd oed, cwympodd Geraint Davies mewn cariad â chanu pop a roc. Gymrodd hi ddegawd arall cyn iddo fe ddechrau cyfansoddi o ddifri', ond ers hynny mae'i ganeuon wedi'u recordio gan nifer o grwpiau y bu ac y mae'n aelod ohonyn nhw - Gwenwyn, Hergest, Y Newyddion a Mynediad am Ddim – ynghyd ag amrywiaeth o artistiaid eraill, o John ac Alun i Margaret Williams, o Heather Jones i Ray Gravell. Mae ei gân 'Hei Mistar Urdd', wedi tyfu'n anthem i filoedd o blant ar hyd y blynyddoedd. A mae yna stori, bersonol neu ffrwyth dychymyg, y tu ôl i bob cân...

'I fi, ma' caneuon fel plant – mae'n wyrthiol sut maen nhw'n cyrraedd, ma' ishe gofal arnyn nhw cyn iddyn nhw fynd mâs i'r byd, ac os odyn nhw'n llwyddo ai peidio, maen nhw wastad yn destun balchder i'r rhai wnaeth eu meithrin nhw.' – Geraint Davies

Pris | Price : £8.50

Nifer | Amount :

Gwasg Carreg Gwalch
12 Iard yr Orsaf
Llanrwst
Dyffryn Conwy
LL26 0EH
01492 642031
llanrwst@carreg-gwalch.cymru

© Hawlfraint 2018 - Gwasg Carreg Gwalch - Gwefan gyda Delwedd

Pay with VisaPay with MastercardPay with MaestroPay with JCB

[ekm:poweredby]

Top

Cwsmeriaid | Customers