Toggle Menu

Diwydiant Gwlân yn Nyffryn Teifi, Y - Pencader a'r Cylch (Llyfrau Llafar Gwlad 57)

Diwydiant Gwlân yn Nyffryn Teifi, Y - Pencader a'r Cylch (Llyfrau Llafar Gwlad 57)

Disgrifiad | Description

  • ISBN: 9780863819131
  • Awdur: D.G. Lloyd Hughes
  • Cyhoeddi Gorffennaf 2004
  • Fformat: Clawr Meddal, A5, 96 tudalen

Braslun hynod ddiddorol o gyfraniad allweddol gwehyddion ardal Pencader, Llandysul i dwf y diwydiant gwlân yn nyffryn Teifi o'r cyfnod cynnar hyd chwarter cyntaf yr 20fed ganrif. 34 llun du-a-gwyn a 4 map.

Adolygiad Gwales
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd Dre-fach a Felindre, y naill bentref ym mhlwyf Llangeler a’r llall ym Mhen-boyr, wedi disodli’r Drenewydd fel prif ganolfan y diwydiant gwlân yng Nghymru. O ganlyniad gallai Daniel E. Jones, awdur Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr (1899), gyhoeddi gyda balchder ‘[Nad] oes yn awr o bosibl ddau blwyf yng Nghymru yn troi allan gymaint o wlaneni Cymreig â’r plwyfi hyn’.

Un arwydd digamsyniol o bwysigrwydd a ffyniant y diwydiant oedd penderfyniad gwehyddion ffatrïoedd Dre-fach Felindre i sefydlu undeb, yn 1899, i warchod eu buddiannau. Flwyddyn yn ddiweddarach ehangwyd ei orwelion ar achlysur ffurfio ‘Undeb Gwehyddion Velindre, Drefach a Phencader, a’r Cylchoedd’, mudiad llafur a oedd, bellach, yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiant ym Mhencader a’r cyffiniau.

Eto i gyd, esgeuluswyd hynt a helyntion ffatrïoedd a gweithdai gweu’r ardal ar draul adrodd hanes ffatrïoedd mwy niferus ac adnabyddus Dre-fach Felindre. Unionwyd y cam hwnnw, i raddau helaeth, gan waith ymchwil manwl Dafydd Lloyd Hughes a gyhoeddodd ffrwyth ei lafur tra gwerthfawr mewn cyfres o erthyglau a gyhoeddwyd yn Y Garthen, y papur bro lleol, a rhwng cloriau’r llyfryn atyniadol a darllenadwy hwn, sydd hefyd yn cynnwys detholiad o hen ffotograffau diddorol a dogfennau dadlennol.

Ym mhenodau agoriadol y gyfrol ymdrinnir yn gryno â hanes y diwydiant yng Nghymru yn gyffredinol ac yn y plwyfi lleol (Llanfihangel-ar-Arth, plwyf y mae Pencader yn ganolbwynt iddo, Llangeler a Phen-boyr) yn benodol, y grefft o droi’r gwlân yn frethyn, a’r datblygiadau technolegol a esgorodd ar ddyfodiad y ffatrïoedd wedi’r 1820au, cyn manylu ar bandai, gweithdai gweu a ffatrïoedd cylch Pencader, ynghyd â’r rheini yn ardal Capel Dewi a Maesycrugiau.

Yn briodol ddigon, rhoddir sylw arbennig i dri theulu a fu’n gyfrifol am sefydlu ffatrïoedd mwyaf a mwyaf adnabyddus y fro, megis Dolbantau (1885) a sefydlwyd gan William Davies, Sunny Hill (c.1868) ac Arddol (c.1893; y ffatri gyntaf, mae’n debyg, i wneud y defnydd cyntaf o wyddiau pŵer yn nyffryn Teifi) a sefydlwyd gan Lewis ac Elizabeth Lewis, a Rock Mills, Capel Dewi, a agorwyd gan John Morgan yn 1894-95 ac sydd bellach yn eiddo i’w or-ŵyr Donald Morgan. Yn wahanol i’r ffatrïoedd bach, a ddiwallai anghenion cymunedau lleol yn bennaf, roedd y rhai mwy sylweddol eu maint yn cynnal stondinau mewn ffeiriau a marchnadoedd a gynhelid ledled maes glo caled de Cymru.

Ond gyda’r pwysicaf o’r holl benodau yw’r olaf sy’n ymdrin â’r ‘Gwrthdaro rhwng y gweithwyr a’r meistri’, pwnc nad yw, hyd yma, wedi derbyn y sylw y mae’n ei haeddu gan haneswyr. Bu ‘gormes y meistri’ a fynnai, yn ôl y gweithwyr, anwybyddu’r ‘ddeddf i reoleiddio oriau gwaith’ a thalu cyflogau bychan i’r gwragedd a gyflogid ganddynt, yn destun sawl streic hir a chwerw rhwng 1872 a 1920 ac mae’r awdur i’w longyfarch am godi cwr y llen ar yr anghydfodau diwydiannol hyn.

Er bod pob ffatri, ac eithrio Rock Mills, wedi hen gau, ni ellir iawn ddeall unrhyw wedd ar hanes Pencader a’r cylch heb roi ystyriaeth lawn i ddatblygiad a thranc y diwydiant gwlân. Bydd cynnwys y llyfryn hwn, felly, wrth fodd nid yn unig y sawl a chanddynt ddiléit mewn hanes lleol ond hefyd y rheini sy’n ymddiddori’n arbennig yn hanes un o grefftau hynaf dynolryw.

Dyfed Elis-Gruffydd

Pris | Price : £5.50

Nifer | Amount :

Gwasg Carreg Gwalch
12 Iard yr Orsaf
Llanrwst
Dyffryn Conwy
LL26 0EH
01492 642031
llanrwst@carreg-gwalch.cymru

© Hawlfraint 2018 - Gwasg Carreg Gwalch - Gwefan gyda Delwedd

Pay with VisaPay with MastercardPay with MaestroPay with JCB

Top

Cwsmeriaid | Customers