Dro ar ôl Tro

Dro ar ôl Tro

Disgrifiad | Description

  • Dro ar ôl Tro
  • ISBN: 9781845277109
  • Judi Curtin
  • Cyhoeddi Mehefin 2019
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm
Dyma addasiad Eleri Huws o'r gyfrol gyntaf mewn cyfres newydd gan yr awdures boblogaidd o Iwerddon, Judi Curtin, oedd hefyd yn gyfrifol am gyfres Alys Drws Nesaf. Fel ei llyfrau eraill, mae pwyslais gryf ar berthnasau ffrindiau a theulu.

Gwybodaeth Bellach:
Mae bywyd yn ddigon cymhleth i Mali a Beth hyd yn oed cyn iddyn nhw gerdded drwy ddrws dirgel sy’n mynd â nhw i... ddydd Iau, 26 Gorffennaf 1984! All y merched ddim credu eu bod nhw’n ôl mewn cyfnod lle roedd steil gwallt pawb mor ofnadwy, a’r dechnoleg mor wael. Ond pan mae Beth yn sylweddoli y byddai ei mam, fu farw pan oedd hi’n ferch fach, yn fyw yn yr wyth degau, mae’n RHAID iddi geisio dod o hyd iddi...

A fydd y ddwy ferch yn llwyddo i ganfod ffordd drwy fyd rhyfedd ieuenctid eu rhieni, ac yn ôl adref eto – a hynny heb help mapiau digidol ar y we?

Pris | Price : £5.99

Nifer | Amount :

Gwasg Carreg Gwalch
12 Iard yr Orsaf
Llanrwst
Dyffryn Conwy
LL26 0EH
01492 642031
llanrwst@carreg-gwalch.cymru

© Hawlfraint 2018 - Gwasg Carreg Gwalch - Gwefan gyda Delwedd

Pay with VisaPay with MastercardPay with MaestroPay with JCB

[ekm:poweredby]

Top

Cwsmeriaid | Customers