Dyddiadur America a Phethau Eraill

Dyddiadur America a Phethau Eraill

Disgrifiad | Description

  • ISBN: 9781845272616
  • Awdur: D. Densil Morgan
  • Cyhoeddi Hydref 2009
  • Fformat: Clawr Meddal, 96 tudalen

Ymhlith achlysuron mwyaf arwyddocaol yr unfed ganrif ar hugain hyd yn hyn oedd yr ymosodiadau ar y Tyrau Marchnad ar Ynys Manhattan ar 11 Medi 2001 - "9/11" - ac etholiad Barack Obama fel arlywydd croenddu cyntaf yr Unol Daleithiau yn Nhachwedd 2008. Roedd awdur y gyfrol hon yn bresennol yn yr Unol Daleithiau yn ystod y cyfnodau hynny ac yn dyst i'r ddau ddigwyddiad ffurfiannol hyn.

Bywgraffiad Awdur:
Mae D. Densil Morgan yn Athro yn Ysgol Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol Prifysgol Bangor.
Gwybodaeth Bellach:
Er bod D. Densil Morgan yn hysbys fel llenor ac academydd o Gymro, fe’i ganed yn Ohio ac yno, mewn teulu a oedd yn nodweddiadol o’r hen ddiaspora Cymreig, y treuliodd ei flynyddoedd cynharaf. Yn fwy na chofnod o ddigwyddiadau aruthr yn hanes y wlad, mae Dyddiadur America a Phethau Eraill yn cofnodi sylwadau dadlennol ar yr Unol Daleithiau – ei diwylliant, ei gwleidyddiaeth a’i chrefyddolder – gan un sy’n fyw i’w rhinweddau yn ogystal â’i gwendidau. Ceir ymgais yma i weld holl amrywiaeth gymhleth yr America gyfoes trwy lygaid Cymro.

Pris | Price : £5.50

Nifer | Amount :

Gwasg Carreg Gwalch
12 Iard yr Orsaf
Llanrwst
Dyffryn Conwy
LL26 0EH
01492 642031
llanrwst@carreg-gwalch.cymru

© Hawlfraint 2018 - Gwasg Carreg Gwalch - Gwefan gyda Delwedd

Pay with VisaPay with MastercardPay with MaestroPay with JCB

[ekm:poweredby]

Top

Cwsmeriaid | Customers