Enaid Eryri
Disgrifiad | Description
- Enaid Eryri
- ISBN: 9781845277222
- Richard Outram
- Cyhoeddi Hydref 2019
- Darluniwyd gan Richard Outram
- Fformat: Clawr Caled, 208x245 mm, 136 tudalen
Bywgraffiad Awdur:
Ffotograffydd llawrydd yw Richard Outram, yn arbenigo mewn tirluniau. Mae’n arwain cyrsiau ffotograffiaeth, ac wedi gweithio ledled y byd. Bu iddo gydweithio ag Angharad Price ar y gyfrol Trysorau Cudd Caernarfon yn 2018. Er mai un o Fangor ydyw, Caernarfon yw ei gartref bellach.
Gwybodaeth Bellach:
Mae tirlun Eryri yn drawiadol, o’r copaon creigiog i lyfnder aur y traethau, ac ynghlwm â’r mawredd naturiol hwn mae ôl troed y Cymry. I’r ffotograffydd Richard Outram, y bobl yw calon ac enaid Eryri, ac yn y gyfrol hon mae’n cydweithio â deg o feirdd ac awduron i ymateb i’r llecynnau hynny sydd yn eu cyffwrdd a’u hysbrydoli – Myrddin ap Dafydd, Bethan Gwanas, Ifor ap Glyn, Manon Steffan Ros, Dewi Prysor, Sian Northey, Ieuan Wyn, Angharad Tomos, Angharad Price a Haf Llewelyn.