Fy Ffordd fy Hunan - Hunangofiant Felix Aubel

Fy Ffordd fy Hunan - Hunangofiant Felix Aubel

Disgrifiad | Description

  • ISBN: 9781845272418
  • Cyhoeddi Tachwedd 2010
  • Golygwyd gan Lyn Ebenezer
  • Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm

Disgrifiad Gwales
Felix Aubel yw un o wleidyddion mwyaf dadleuol Cymru. O'r 1980au ymlaen, roedd e'n enfant terrible i genedlaetholwyr Cymru. Yn y gyfrol hon cawn ddysgu am gymhlethdod ei athroniaeth wleidyddol a chrefyddol - Tori sydd am hunanlywodraeth i Gymru; Cristion sy'n credu mewn erthylu ac mewn ysbrydion.

Gwybodaeth Bellach:
Bygythiwyd bywyd Felix Aubel fwy nag unwaith. Ar ôl rhyw gyboli gyda’r Democratiaid Cymdeithasol (SDP), canfu ei gartref gwleidyddol o fewn i’r Blaid Geidwadol.

Mowldiwyd ei gymeriad gan agwedd ffyrnig wrth-Gomiwnyddol ei dad, ffoadur o Slofenia a brofodd ddiawlineb Hitler a Stalin, Tito a’r Partisans fel ei gilydd, ac ymneilltuaeth geidwadol ei fam, athrawes o Aberdâr.

Cawn yn y gyfrol hefyd fewnwelediad unigryw i gymeriadau fel Margaret Thatcher a Jeffrey Archer, Elwyn Jones a Rod Richards. Dyma hunangofiant di-flewyn-ar-dafod gŵr a dorrodd ei gwys ei hun.

Pris | Price : £8.50

Nifer | Amount :

Gwasg Carreg Gwalch
12 Iard yr Orsaf
Llanrwst
Dyffryn Conwy
LL26 0EH
01492 642031
llanrwst@carreg-gwalch.cymru

© Hawlfraint 2018 - Gwasg Carreg Gwalch - Gwefan gyda Delwedd

Pay with VisaPay with MastercardPay with MaestroPay with JCB

[ekm:poweredby]

Top

Cwsmeriaid | Customers