Gêm, Y

Gêm, Y

Disgrifiad | Description

  • ISBN: 9781845274962
  • Gareth F. Williams
  • Cyhoeddi Tachwedd 2014
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x130 mm
Nofel hanesyddol ar gyfer plant cynradd hŷn a phobol ifanc am ddau ffrind o Gymru a drodd yn ddau elyn ar gaeau pêl-droed eu hardal. Pan ddaeth y Rhyfel Mawr yn 1914, fe gymerodd un gêm bêl-droed arbennig yn erbyn gelynion go iawn - sef yr Almaenwyr - i\'r ddau sylweddoli pa mor werthfawr yw cyfeillgarwch mewn gwirionedd.

Gwybodaeth Bellach:
Mae hon yn stori rymus sy’n adrodd hanes Alun y Gelli a Tecwyn Tŷ’r Nant yn hogiau ac yn filwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn rhan gyntaf y nofel, cawn glywed am ddirgelwch yr hen dŷ. Flynyddoedd yn ddiweddarach, mae Alun yn dal i deimlo arswyd y lle hwnnw. Beth ddigwyddodd rhwng y ddau ffrind ifanc yn Yr Hen Dŷ flynyddoedd maith yn ôl?
Mae gemau pêl-droed pentrefi’r cwm yn gefndir i’r stori. Felly hefyd, y gêm bêl-droed a chwaraewyd ar ddiwrnod Nadolig 1914 pan gafwyd heddwch undydd rhwng milwyr dwy fyddin a oedd i fod yn elynion i’w gilydd.
Flynyddoedd yn ddiweddarach, mae cysgodion erchyll y rhyfel yn dal i boeni Alun. Gwelwn fod cyfeillgarwch, aberth a chariad hefyd dan gwmwl rhyfel. Cwmwl rhy drwchus o lawer i hyd yn oed gêm bêl-droed gyfeillgar rhwng dau elyn …

Bywgraffiad Awdur:
Enillodd Gareth F Williams wobr Tir Na n-Og am
Cwmwl dros y Cwm – nofel gyda thrychineb
Senghennydd 1913 yn gefndir iddi.

Pris | Price : £2.00

RRP: £5.99

Nifer | Amount :

Gwasg Carreg Gwalch
12 Iard yr Orsaf
Llanrwst
Dyffryn Conwy
LL26 0EH
01492 642031
llanrwst@carreg-gwalch.cymru

© Hawlfraint 2018 - Gwasg Carreg Gwalch - Gwefan gyda Delwedd

Pay with VisaPay with MastercardPay with MaestroPay with JCB

[ekm:poweredby]

Top

Cwsmeriaid | Customers