Glaniad - Cerddi Dwy wrth Groesi Paith Patagonia
£7.50
- ISBN: 9781845275457
- Karen Owen, Mererid Hopwood
- Cyhoeddi Gorffennaf 2015
- Fformat: Clawr Meddal
Gwybodaeth Bellach:
Dyma gasgliad o gerddi sy’n dweud hanes taith dau fardd, a dwy ffrind, gyda’i gilydd ar draws paith Patagonia. Taith y mil milltiroedd. O Buenos Aires yn y dwyrain i Bariloche yn y gorllewin, mae Mererid Hopwood a Karen Owen yn dilyn ôl traed y fintai gyntaf honno a laniodd ym Mhorth Madryn yn 1865 a sefydlu’r Wladfa.
Ond nid cerddi hanes sydd yma. Lle bynnag y maen nhw, mae Karen a Mererid yn dod o hyd i bobol ddiddorol; maen nhw’n bwyta teisen ddu ac yn yfed mate yn Trelew, y Gaiman a Threvelin; yn ogystal â syrthio mewn cariad drachefn â’r iaith Gymraeg ym mhen draw’r byd.
Product Code:
ISBN: 9781845275457