Hwyl y Limrigau Newydd
Disgrifiad | Description
- ISBN: 9781845274214
- Myrddin ap Dafydd
- Cyhoeddi Medi 2013
- Fformat: Clawr Meddal, 297x210 mm, 32 tudalen
Gwybodaeth Bellach:
Mae pawb o bob oed yn mwynhau doniolwch a chlyfrwch y limrig. Yn y gyfrol hon mae casgliad o limrigau newydd sbon gan rai o limrigwyr gorau Cymru yn cynnwys Geraint Lovgreen, Dorothy Jones, Arwel Pod, Dewi Prysor a Jôs Giatgoch. Bydd rhai o’r limrigau hyn yn siŵr o ymuno ar y brig gyda’r hen ffefrynnau.
Y walrws, i gael mwy o gash,
Gynhyrchodd beth trimio mwstash,
Fe lansiodd y pecyn
Mewn llong ar Gwm’strallyn
A hynny â choblyn o sblash.
Yn y gyfrol hefyd y mae nifer o syniadau er mwyn ysgogi dosbarthiadau i greu limrigau newydd eu hunain. Ar y CD-Rom mae ffilmiau o weithdai byw mewn tair ysgol gynradd – Pentreuchaf (Gwynedd), Eglwyswrw (Penfro) a Rhyd y Grug (Merthyr Tudful), gyda’r plant yn bwrw iddi i ganfod odlau, creu rhythm a chyfansoddi llinellau cyntaf er mwyn sgwennu limrigau.