Mae Cath yn wraig fferm ganol oed, yn fam i ddau o blant yn eu harddegau ac yn ceisio'i gorau i jyglo bywyd bob dydd. Un diwrnod daw ei gŵr adref a datgan ei fod yn ei gadael i fynd i fyw at amgylcheddwraig, ac mae'n rhaid i Cath ddelio â'r canlyniadau. Nofel ddoniol, grafog sy'n portreadu bywyd cefn gwlad ar ei orau a'i waethaf.
Pwy arall ond Myfanwy Alexander fyddai’n gallu ysgrifennu nofel sy’n gyfuniad o amaethyddiaeth, tor priodas, Gwrthryfel y Pasg 1916, chwant, Clybiau Ffermwyr Ifanc, twf Ffasgiaeth yn yr Eidal, Wotsits a magu teulu, gyda hiwmor miniog, oll ar gefnlen mwynder Sir Drefaldwyn gyda’i geirfa a’i hacen gynnes, gyfoethog?
Mae ymennydd Alexander tua’r un seis â phlaned. Mae ei gwybodaeth ar bob pwnc o dan haul yn ddiarhebol; does dim ond rhaid i chi wrando ar ei chyfraniadau ar y cwis Round Britain Quiz ar BBC Radio 4 i ddeall hynny. Ond yn ogystal â’r ffeithiau di-ben-draw sydd ar flaenau’i bysedd mae ei deallusrwydd a’i ffraethineb yn dyst pellach a dyfnach o’i chlyfrwch. Mae’r nofel hon yn llwyfan i’w thalentau a’i dawn i ddiddanu drwy eiriau.
Catherine, neu Cath, ydi prif gymeriad y nofel a thrwy ei llygaid hi y cawn ni’r hanes. Mae hi’n briod â Ger ac mae ganddyn nhw dri o blant bach anhygoel, Owain, Llinos a Greta. Ond yn ddirybudd mae Ger yn ei gadael am eco-dywysoges o’r enw Petal. Mae Petal nid yn unig dipyn yn iau na Cath ond mae hi hefyd yn bopeth nad ydi Cath ei hun. Mae Cath yn egwyddorol, yn ddinonsens, yn gignoeth o onest ond yn ddiffuant ac yn fam odidog.
Dydi Petal ddim yn un o’r rheiny, ond mae hi wedi dwyn calon a cheilliau Ger (nid bod ganddo fo lawer o wmff yn y rheiny beth bynnag). Mae Cath yn cael ei beio am ymadawiad Ger gan sawl un, a hynny ar sail ei maint, ac ôl-effeithiau magu tri o blant bach, bywyd hectig a gwaith caled ar ei chorff, ac mae ei beirniaid yn cynnwys ei mam ei hun a’i mam yn nghyfraith, ond mae Cath, drwy eiriau bachog ei chreawdwr, yn ennill bob brwydr eiriol.
Ond dydi Cath ddim yn brin o edmygwyr – edmygwyr sy “ddim yn rhoi rhech”, fel y byddai Cath yn ei ddweud, am owns neu ddwy ychwanegol a phrinder apwyntiadau salons harddwch. Mae hi’n garismatig, yn ddigri ac yn gryf ac oherwydd hynny yn hynod secsi, a fedrith dynion ddim maddau i hynny. Am chwa o awyr iach ydi’r huodledd a’r gonestrwydd yn y sgwennu sy’n bwrw maen ffeministaidd i’r wal heb bregeth na chŵyn, dim ond doethineb ffraeth.
Er mwyn cadw dau ben llinyn ynghyd mae Cath yn archifo hanes teulu Mr Jenks, perchennog y Plas a sgweiar ar fferm deuluol Cath. Dyna pryd y gwelwn wybodaeth ac ymchwil hanesyddol trylwyr Myfanwy Alexander yn cael eu defnyddio’n grefftus er mwyn rhannu’r wybodaeth honno ac ychwanegu haenau difyr a dirgel i’r cyfanwaith. Mae’r parch mae Jenks yn ei ddangos tuag at Cath a hithau tuag ato fo yn cyffwrdd rhywun yn wirioneddol. Mae Jenks yn ei thrystio’n llwyr ac yn ddiolchgar am ei dycnwch a’i chyfeillgarwch a thrwy hynny’n ein anwylo hyd yn oed yn fwy at Cath, a Jenks ei hun hefyd.
Mae’r sgyrsiau rhwng Cath a’i phlant ,a’r cariad pur sydd ganddi tuag atyn nhw, yn dangos ochr hyfryd o gynnes a sensitif i ysgrifennu Myfanwy ac rydan ni’n hollol ddiogel o wybod na ddaw unrhyw ofid i’r tri bach tra mae eu llewes o fam yn eu gwarchod.
Mae’r hiwmor fel rasal drwy gydol y nofel ardderchog hon ond mae yma anwyldeb a rhuddin hefyd. ’Dan ni’n cefnogi Cath i’r carn o’r gair cyntaf oherwydd, fel Myfanwy ei hun, mae hi’n Rubik’s Cube o bersonoliaeth – sawl ochr, sawl lliw, yn anodd ei churo ac yn amhosibl i’w dynnu’n ulw.
Caryl Parry Jones
Bywgraffiad Awdur:
Magwyd Myfanwy Alexander yng Nghefn Coch yn Sir Drefaldwyn ac ar ôl byw ym mhob cornel o Brydain dychwelodd i fagu chwech o ferched mewn tŷ to gwellt ger Llanfair Caereinion. Fel sgwennwr a darlledwr mae hi wedi cyfrannu i sawl rhaglen radio a theledu yn cynnwys y Round Britain Quiz ar Radio 4. Enillodd Wobr Sony am The Ll Files. Mae hi wedi cyhoeddi pum nofel dditectif boblogaidd sy’n dilyn helyntion yr Arolygydd Daf Dafis, ac mae un arall ar y ffordd.
- ISBN: 9781845279684
- Awdur: Myfanwy Alexander
- Cyhoeddi: Gorffennaf 2025
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 300 tudalen