Llên Gwerin Blaenau Gwent (Llyfrau Llafar Gwlad 77)
Disgrifiad | Description
- ISBN: 9781845272937
- Awdur: Frank Olding
- Cyhoeddi Gorffennaf 2010
- Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 120 tudalen
Detholiad o straeon a thraddodiadau lleol ardal Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Cewch yn y gyfrol gip difyr ar ei llên gwerin unigryw, gorchestion ei beirdd, dylanwad y "gwitha" a'r gymdeithas unigryw a dyfodd o'u hamgylch yn ogystal a chanllaw hwylus i rai o dafarndai hanesyddol y fwrdeistref.
Frank Olding yw swyddog treftadaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Yn fabi löwr, cafodd ei eni yn Nant-y-glo a’i fagu yn Abertyleri. Graddiodd mewn archaeoleg ac astudiaethau Cymreig yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd ac mae ganddo MA mewn archaeoleg o Brifysgol Bryste. Yn 2009, cafodd ei ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Hynafiaethwyr (FSA). Ers dyddiau coleg, bu ganddo ddiddordeb cryf iawn mewn barddoniaeth a llên gwerin. Mae wedi cyhoeddi nifer o gerddi ac erthyglau yn Barddas a daeth yn agos at gipio’r goron yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 2009.