Llên Gwerin Meirion (Llafar Gwlad 87)
Disgrifiad | Description
- ISBN: 9781845275280
- William Davies
- Cyhoeddi Ebrill 2015
- Golygwyd gan Gwyn Thomas
- Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm
Gwybodaeth Bellach:
Mae bron i ddau can tudalen o gyfrol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Blaenau Ffestiniog 1898 wedi’i neilltuo i ffrwyth gwaith buddugol un enillydd, sef ‘Casgliad o Lên Gwerin Meirion’ gan William Davies, Tal-y-bont, Ceredigion. Mae’n gamp cael gafael ar gopi o’r gyfrol honno erbyn hyn, ac os bydd un ar silff siop lyfrau ail-law, bydd yn costio dros £25. Y rheswm dros y pris anarferol hwnnw yw’r cyfoeth a gasglwyd ynghyd yn y traethawd arbennig hwn.
Dr John Rhŷs, Prifathro Coleg yr Iesu, Rhydychen ar y pryd, ac arbenigwr ar lên gwerin oedd y beirniad. Yn ei feirniadaeth (a draddodwyd yn Saesneg gyda llaw) mae’n canmol natur amrywiol y casgliad – llên gwerin am arwyr, seintiau a chewri; esboniadau poblogaidd ar enwau lleoedd; ymadroddion ac idiomau llafar gwlad; dywediadau tywydd; hen benillion; llysenwau lleoedd; chwedlau tylwyth teg a llawer mwy. Mae’n crynhoi’i sylwadau gyda chlod anarferol: ‘dyma un o’r casgliadau gorau o’i fath a ddarllenais erioed, ac os bydd yn cael ei gyhoeddi, bydd marchnad barod ar ei gyfer’.
Dyma argraffiad newydd o’r gwaith felly, y cyfan wedi’i olygu gan Gwyn Thomas, edmygydd arall o lafur mawr William Davies.