Lloffion Môn

  • ISBN: 9781845273286
  • Gan: W. Arvon Roberts
  • Cyhoeddi Hydref 2011
  • Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm

Disgrifiad Gwales
Ffrwyth chwilota drwy bentyrrau o ddeunydd papur - boed hen lyfrau, papurau newydd, cylchgronau neu fân bamffledi - ynghyd ag ambell bwt gwreiddiol, a\'r cyfan am Fôn, yw\'r gyfrol hon. Cyfle i gael cipolwg ar orffennol yr ynys a\'i chymeriadau amryliw.

Bywgraffiad Awdur:
Brodor o Bwllheli yw W. Arvon Roberts, yn un o deulu hynafol y dref, sef teulu Siop Bach a Siop Miss Clark, gwraig a fu\'n ffigwr arbennig ynddi ei hun, ac yn berchen llynges o gychod pysgota ym Mae Ceredigion. Bu\'n bostmon am ddeugain mlynedd ar arfordir gogleddol Llyn. Yn ei amser hamdden bu\'n ohebydd i\'r Drych, newyddiadur Cymry America, ac yn gyfrannwr cyson am dros ddeng mlynedd ar hugain i bob un o\'r papurau enwadol, a nifer o bapurau bro, yn ogystal â chylchgronau amrywiol, yn bennaf yn ymwneud â materion am Gymry America. Y mae bellach wedi ymddeol ac yn ysgrifennu pob cyfle a gaiff. Cyhoeddodd 150 Famous Welsh Americans yn 2008, Lloffion Llŷn yn 2009 a Lloffion Eifionydd yn 2010.

Product Code: ISBN: 9781845273286