Mae'r Lleuad yn Goch

  • ISBN: 9781845276232
  • Myrddin ap Dafydd
  • Cyhoeddi Ebrill 2017
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x130 mm
Nofel am y Tân yn Llŷn yn 1936 ac am losgi pentref Guernica yng Ngwlad y Basg yn 1937. Mae tân yn y cartref henoed yn gorfodi Megan, sydd bellach yn nain, i ddewis un peth o\'i llofft wrth i\'r adeilad gael ei wagio gan y timau diogelwch. Pam ei bod wedi dewis hen faner denau goch, gwyrdd a gwyn?

Gwybodaeth Bellach: Wrth iddi ddechrau adrodd y stori i’w hwyres, awn yn ôl i benrhyn Llŷn 1936 a hanes llosgi’r Ysgol Fomio. Awn hefyd ar hyd llwybrau llongwyr Pwllheli i wlad y Basg a’r rhyfel yn erbyn Franco a’r Ffasgwyr. Ysgol Fomio yn Llŷn... bomiau’n disgyn ar ddinas Gernika yng ngwlad y Basg... ffoaduriaid y lladd a’r dinistr yn dod i Gymru... mae un teulu yng nghanol hyn i gyd. Fwy nag unwaith, roedd fflamau’r tanau yn codi mor uchel i awyr y nos nes bod y lleuad yn goch...
Product Code: ISBN: 9781845276232