Melysach Cybolfa
Disgrifiad | Description
- Melysach Cybolfa
- Mari Gwilym
- ISBN: 9781845276072
- Cyhoeddi Rhagfyr 2017
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm
Yn dilyn ei chyfrol gyntaf, Melysgybolfa Mari, dyma gasgliad arall o straeon dwys, doniol a difyr. O brofiadau bore oes a throeon trwstan i straeon a'u gwreiddiau'n ddwfn yn y traddodiad llafar.
Bywgraffiad Awdur:
Mae Mari Gwilym yn awdur, yn actores, yn berfformwraig ac yn sgriptwraig, ac yn byw yng Nghaernarfon gyda’i gŵr, Emrys. Mae eisoes wedi cyhoeddi nifer o lyfrau a straeon i blant, yn cynnwys Am Ddolig, a Carwyn a’r Anrheg Nadolig (Y Lolfa), a chyfrannu i gasgliadau o straeon i blant ac oedolion. Hon yw ei hail gyfrol i oedolion.
Gwybodaeth Bellach:
‘Mae cynhwysion melys diniweidrwydd yn treiddio drwy’r cyfan. Ac yn hufen ar ben y gybolfa mae dawn ddihafal Mari i ddweud stori.’
Lyn Ebenezer am Melysgybolfa Mari, Gwales.com