Melysgybolfa Mari
Disgrifiad | Description
- ISBN: 9781845273736
- Mari Gwilym
- Cyhoeddi Hydref 2012
- Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm
Pytiau dwys a digri wedi\'u hysbrydoli gan atgofion a phrofiadau\'r awdur.
Bywgraffiad Awdur:
Mae Mari Gwilym yn awdur, yn actores, yn berfformwraig ac yn byw yng Nghaernarfon gyda’i gŵr, Emrys. Mae eisioes wedi cyhoeddi nifer o lyfrau a straeon i blant, yn cynnwys Am Ddolig a Carwyn a’r Anrheg Nadolig (Y Lolfa), a chyfrannu i gasgliadau megis Stori Cyn Cysgu 2 (Gwasg Carreg Gwalch). Hon yw ei chyfrol gyntaf i oedolion.
Gwybodaeth Bellach:
’Sgen i ddim, a fydd gen i fyth, awydd i groniclo chwydfa fanwl o hanes fy mywyd. Felly straeon wedi’u sbarduno gan deulu, ffrindiau a phrofiadau sydd yn y gyfrol hon - gan obeithio codi gwên ond gyda cheiniogwerth o ddwyster yma ac acw.