Milltir Sgwar
Disgrifiad | Description
- Milltir Sgwâr
- Neville Jones
- ISBN: 9781845276850
Dymuniad mawr Jack Jones, neu Jac Whitehall, oedd i ddetholiad o’i atgofion gael eu cyhoeddi wedi iddo farw. Ymddiriedodd y dasg i ofal ei frawd ieuengaf, Neville. Cadwodd y brawd bach ei addewid. A dyma’r canlyniad, detholion o sylwadau Jack wedi eu gosod yn eu cyd-destun.
Digwyddiadau lleol syml o’i fywyd fel postman, gwas fferm a chymydog yw ffrwyth dyddiaduron Jack, gweithgareddau a gyflawnodd yn ffyddlon a didrafferth er iddo gael ei eni gydag ond un llaw. Cawn ddarlun o fywyd a droai o gwmpas y capel a’r cwrdd cystadleuol, sioeau amaethyddol a chymdeithasu ar y sgwâr neu yn y siop a’r gweithdy. Dyddiau pan wnâi pawb adnabod pawb mewn cymdeithas glòs a chymdogaeth dda nad yw bellach yn bod.