Nôl Atgofion drwy Ganeuon

Nôl Atgofion drwy Ganeuon

Disgrifiad | Description

  • Nôl Atgofion drwy Ganeuon
  • ISBN: 9781845276867
  • Ryland Teifi
  • Cyhoeddi Gorffennaf 2020
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 150 tudalen

Atgofion drwy ganeuon Ryland Teifi. Mae Ryland Teifi yn un o'n cyfansoddwyr a'n perfformwyr mwyaf talentog a phoblogaidd, gyda'i ganeuon yn cyfuno'r gwerinol/cyfoes Cymreig.

Gwybodaeth Bellach: Gan ei fod wedi priodi Gwyddeles o deulu o gerddorion cryf yn y traddodiad, a gan ei fod ef a’i deulu bellach yn byw yn ne-ddwyrain yr ynys, mae dylanwad traddodiadau a datblygiadau cerddorol Iwerddon yn amlwg ar ei ganeuon hefyd.

Mae wedi cyfansoddi a chynhyrchu 4 albwm a 2 EP o’i ganeuon yn Gymraeg a Saesneg, wedi ennill Cân i Gymru yn 2006 ac enwebiad am artist y flwyddyn yn 2007. Derbyniodd ‘Last of the Old Men’ wobr ‘Albwm y Mis’ yng nghylchgrawn cerddoriaeth ‘Hotpresss’ a chyrhaeddodd ‘Man Rhydd’ restr fer Albwm Gymraeg y Flwyddyn yn 2016.

Mae’n actor/cantor adnabyddus – wedi ymddangos ar nifer fawr o gyfresi ar S4C fel ‘Caerdydd’, ‘Fondu, Rhyw a Deinasors’ a ‘Pen Talar’ ynghyd â chyfresi fel ‘Emmerdale’, ‘Hinterland/Y Gwyll’ ac ‘Un Bore Mercher/Keeping Faith’ ar sianeli ITV, y BBC a Netflix. Erbyn hyn, fe'i gwelir hefyd fel un o gyflwynwyr ‘Dechrau Canu, Dechrau Canmol’ ar S4C.

Pris | Price : £7.50

Nifer | Amount :

Gwasg Carreg Gwalch
12 Iard yr Orsaf
Llanrwst
Dyffryn Conwy
LL26 0EH
01492 642031
llanrwst@carreg-gwalch.cymru

© Hawlfraint 2018 - Gwasg Carreg Gwalch - Gwefan gyda Delwedd

Pay with VisaPay with MastercardPay with MaestroPay with JCB

[ekm:poweredby]

Top

Cwsmeriaid | Customers