Odl-Dodl Pobl
Disgrifiad | Description
- ISBN: 9781845270599
- Awdur: Gwion Hallam
- Cyhoeddi Mai 2007
- Darluniwyd gan Jose Solis
- Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1
- Fformat: Clawr Meddal, 120x120 mm, 24 tudalen
Disgrifiad Gwales
Stori ar fydr ac odl gyda lluniau bywiog am bobl o bob math a'r gwaith pwysig y maent yn ei wneud i helpu pobl eraill. Addas i blant dan 7 oed.
Adolygiad Gwales
Dilyn diwrnod ym mywyd Llŷr Ifan a wnawn yn y gyfrol hon a chael cipolwg ar y bobl gyffredin ond pwysig sydd yn rhan o’i fywyd bob dydd – Mr Johns sy’n casglu’r sbwriel, Mr Kirienko sy'n gyrru'r bws a Mrs Lilian a'i lolipop – i enwi dim ond rhai o'r cymeriadau lliwgar!
Cyflwynir y stori ar ffurf mydr ac odl sy’n llifo’n rhwydd iawn ac yn gyflwyniad hyfryd i blant nid yn unig i sŵn geiriau sy’n odli ond hefyd i rythm brawddegau. Daw'r lluniau trawiadol a’r stori yn fyw gan lwyddo i gyfleu naws a natur hoffus y cymeriadau amrywiol.
Trwy lygaid Llŷr Ifan fe welwn realiti'r gymdeithas yr ydym ni’n byw ynddi. Codir ein hymwybyddiaeth fod y gymdeithas yn llawn o bobl wahanol iawn o ran cefndir, oedran a diwylliant ac y dylem ni fod yn ddiolchgar iddynt.
Mae hon yn gyfrol lawn bywyd am bwysigrwydd unigolyn a’r modd y dylem ni werthfawrogi ein gilydd.
Ffion Bowen