Pedwerydd Dyn Doeth, Y
Disgrifiad | Description
- ISBN: 9781845274467
- T. Llew Jones
- Cyhoeddi Medi 2013
- Darluniwyd gan Dorry Spikes
- Fformat: Clawr Meddal, 220x240 mm, 32 tudalen
Gwybodaeth Bellach:
Mae’r perl hwn o stori wedi bod yn cuddio rhwng cloriau cyfrol a luniodd T. Llew Jones hanner canrif yn ôl, bron. Swynwyd cenedlaethau o blant y gorffennol gan y stori rymus hon, a dyma gyfle i blant heddiw fwynhau’r trysor o’r newydd, gyda lluniau trawiadol a chyfoethog Dorry Spikes, Cymraes o Geredigion.