Perffaith Chwarae Teg - Ysgol Glanaethwy 1990 - 2011

Perffaith Chwarae Teg - Ysgol Glanaethwy 1990 - 2011

Disgrifiad | Description

  • ISBN: 9781845273330
  • Cefin a Rhian Roberts
  • Cyhoeddi Mai 2011
  • Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm

Llwybr go wahanol i batrwm arferol sefydlu busnesau oedd hwnnw y camodd Cefin a Rhian Roberts ar hyd-ddo wrth greu a datblygu Ysgol Glanaethwy. Yn y gyfrol hon, maen nhw'n adrodd y stori hynod - gan roi cefndir cynnar y weledigaeth a'r profiadau a gawsant yn y maes cyn sefydlu ysgol berfformio.

Gwybodaeth Bellach:
Ugain mlynedd yn ddiweddarach – ugain mlynedd o ganu, actio a dawnsio ar lwyfannau a sgriniau’r byd – mae’r ddau yn hel meddyliau am hanfodion crefft y theatr a’r neuadd gyngerdd, yn cyfleu’r pleser sydd i’w gael wrth ymwneud â’r crefftau hynny, a hefyd yn codi cwr y llen ar y boen gelfyddydol o anelu at y safonau uchaf posibl.

Ond fel gyda phob busnes arall, rhaid rhoi sylw i arian, ceisiadau cynllunio, trefnu rhaglen waith a breuddwydio am ddatblygiadau newydd i gadw’r cyffro at y dyfodol. Mae’n stori ddramatig wedi ei llwyfannu yn effeithiol iawn!

Pris | Price : £5.00

Nifer | Amount :

Gwasg Carreg Gwalch
12 Iard yr Orsaf
Llanrwst
Dyffryn Conwy
LL26 0EH
01492 642031
llanrwst@carreg-gwalch.cymru

© Hawlfraint 2018 - Gwasg Carreg Gwalch - Gwefan gyda Delwedd

Pay with VisaPay with MastercardPay with MaestroPay with JCB

[ekm:poweredby]

Top

Cwsmeriaid | Customers