Pren a Chansen

Pren a Chansen

Disgrifiad | Description

  • Pren a Chansen
  • ISBN: 9781845276423
  • Myrddin ap Dafydd
  • Cyhoeddi Mai 2018
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 198 tudalen
Mae Bob yn dechrau yn Ysgol y Llan ar ddiwedd gwyliau'r haf. Ond mae nifer o bethau yn ei boeni. Dydi oes y 'Welsh Not' ddim ar ben yn yr ysgol honno a does ganddo yntau ddim Saesneg. Gan fod Bob hefyd wedi bod yn fachgen gwael ei iechyd ers pedair blynedd, mae'n dechrau'r ysgol yn wyth oed yng nghanol dosbarth y plant lleiaf.

Gwybodaeth Bellach:
“y gansen gei di am ddweud gair yn Gymraeg …” Mae Bob yn dechrau yn Ysgol y Llan ar ddiwedd y gwyliau haf. Ond mae nifer o bethau yn ei boeni. Dydi oes y Welsh Not ddim ar ben yn yr ysgol honno. Does ganddo yntau ddim Saesneg. Gan fod Bob hefyd wedi bod yn fachgen gwael ei iechyd ers pedair blynedd, mae’n dechrau’r ysgol yn wyth oed yng nghanol dosbarth y plant lleiaf. Nid yw’n gwybod eto sut y bydd yn dygymod â hyn i gyd. Ond mae’n lwcus ei fod yn cael cefnogaeth ei frodyr hŷn a’i chwaer fawr ac mae Nain Beic hefyd yn un dda am godi’r galon. A phan ddaw damwain annisgwyl i ysgwyd y teulu, pa ran fydd gan Mac, cipar y stâd, i’w chwarae yn y stori tybed?

Pris | Price : £6.99

Nifer | Amount :

Gwasg Carreg Gwalch
12 Iard yr Orsaf
Llanrwst
Dyffryn Conwy
LL26 0EH
01492 642031
llanrwst@carreg-gwalch.com

© Hawlfraint 2018 - Gwasg Carreg Gwalch - Gwefan gyda Delwedd

Pay with VisaPay with MastercardPay with MaestroPay with JCB

Top

Cwsmeriaid | Customers