{"product_id":"adar-y-nant-cerddi-i-ddysgwyr","title":"Adar y Nant - Cerddi i Ddysgwyr","description":"\u003cp\u003eCasgliad o gerddi gan Ddysgwyr ar gfer Dysgwyr. Trefnwyd cyfarfod ym mhabell Nant Gwrtheyrn ar Faes Eisteddfod wrecsam gan wahodd rhai o fynychwyr y Nant sydd wedi ennill yn y Genedlaethol neu wedi dangos diddordeb mewn cerddi. Trefnwyd cwrs arbennig ar gyfer y maes hwn yn y Nant ym Medi 2025, gyda thri thiwtor a siaradwyr gwadd. Ffrwyth y cyfan yw’r gyfrol hon.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMae dysgwyr yn ennill mwy na geiriau Cymraeg wrth ddysgu’r iaith. maen nhw hefyd yn defnyddio’r iaith fel allwedd i agor drysau nad oedden nhw’ n gwybod amdanyn nhw cyn hynny. Mae barddoniaeth Gymraeg yn enghraifft wych o hynny.\u003cbr\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eDyma gasgliad o gerddi ar gyfer dysgwyr gan rai sydd wedi bod eu hunain ar y daith i ddysgu’r iaith. Mae’r elfen o ryfeddu at yr iaith ei hun yn amlwg iawn yn y casgliad hwn. Felly hefyd cerddi am wahanol gyfnodau hanesyddol neu yn trafod ambell bwnc llosg cyfoes. Mae natur a chadwraeth yn thema gref arall sy'n apelio atyn nhw, yn ogystal â cherddi sy'n cyflwyno cip ar sawl cynefin o fewn Cymru.\u003cbr\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eCyfres Amdani - Llyfrau ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg.  Mae'r llyfrau ar bedair lefel - Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMae'r llyfr yma yn addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi gorffen y cwrs Uwch 1.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eGolygydd: Siwan Tomos, Cyfarwyddwr Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn\u003c\/p\u003e","brand":"Gwasg Carreg Gwalch","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":57255293419895,"sku":null,"price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0795\/2370\/9229\/files\/adarynant.jpg?v=1782997743","url":"https:\/\/carreg-gwalch.cymru\/products\/adar-y-nant-cerddi-i-ddysgwyr","provider":"Gwasg Carreg Gwalch","version":"1.0","type":"link"}