{"product_id":"america-a-r-rhyfel-cartref-a-fi","title":"America a’r Rhyfel Cartref a Fi","description":"\u003cp\u003eYn 1998, treuliodd yr awdur saith mis yn ymweld ag archifau, llyfrgelloedd a meysydd y gad ynAmerica yn ystod ei ymchwil i ddoethuriaeth ar ran y Cymry yn y rhyfel Cartref.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eYn y gyfrol hon, cawn ei hanes yn cyfarfod nifer helaeth o Gymry o dras Cymreig. Er bod\u003cbr\u003eamryw ohonynt wedi’u cymhathu yn Americanwyr ers sawl cenhedlaeth, maent er hynny’n\u003cbr\u003efalch o arddel eu cysylltiad Cymreig. Mae hon yn stori bersonol, llawn cameos difyr, yng\u003cbr\u003enghwmni awdur ffraeth a hunan-ddychanol.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eDigwyddiadau a chymeriadau’r rhyfel Cartref sy’n penderfynu llwybrau’r misoedd hynny.\u003cbr\u003eDaw’r hanes yn fyw – hanes sy’n dal i siarad gyda ni heddiw.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e“Mewn ystyr ehangach, roedd [rhyfel Cartref America] yn frwydr dros y syniadau am ryddid, cydraddoldeb a rôl y llywodraeth – cwestiynau sy’n cael eu hadleisio hyd heddiw. Ac roedd y Cymry dros eu pennau a’u clustiau yn rhan o’r holl hylabalŵ yma. fy rôl i oedd datguddio eu stori.”\u003cbr\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eBywgraffiad Awdur\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eAr ôl dros ugain mlynedd o fod yn athro hanes mewn ysgolion uwchradd ac yna\u003cbr\u003eychydig o flynyddoedd fel ymgynghorydd, fe benderfynodd fentro a mynd am swydd uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol y Drindod Dewi sant. wrth gymryd y cam hwn, dechreuodd ailystyried ei waith academaidd,yn fwyaf arbennig ei draethawd doethuriaeth ar ran y Cymry yn hanes rhyfel Cartref America. Yna daeth y syniad o gyfuno’r ymchwil academaidd â’i brofiadau personol yn teithio America i greu llyfr newydd lle mae’r hanesydd a’r teithiwr yn cyd-fyw ac yn caniatáu mynegiant i ‘lais boi bach o Gwmtwrch’.\u003c\/p\u003e","brand":"Gwasg Carreg Gwalch","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":57255234142583,"sku":null,"price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0795\/2370\/9229\/files\/AmericaarRhyfelCartrefaFi.jpg?v=1782997038","url":"https:\/\/carreg-gwalch.cymru\/products\/america-a-r-rhyfel-cartref-a-fi","provider":"Gwasg Carreg Gwalch","version":"1.0","type":"link"}