{"product_id":"barti-a-bwystfil-y-mor","title":"Barti a Bwystfil y Môr","description":"\u003cp\u003eY nofel gyntaf mewn cyfres newydd wedi’i lleoli ar ynys yn y Môr Celtaidd oddi ar\u003cbr\u003earfordir gorllewin Cymru. Mae’n cyfuno straeon arfordir diddorol\/cyfarwydd gyda gofal\u003cbr\u003eam adar ac anifeiliaid. Mae elfen gyfoethog o gadwraeth dan yr wyneb.\u003cbr\u003eNofel wedi’i chynllunio’n ofalus i gynorthwyo’r darllenwyr ifanc i fachu yn y stori ac\u003cbr\u003ei’w gwneud yn ddarllenwyr mwy hyderus a phrofiadol. Gwerth y gyfrol yw y bydd yn\u003cbr\u003egwneud i blant werthfawrogi byd natur a deall yr amgylchedd ar yr arfordir yn well –\u003cbr\u003eond hefyd yn magu cariad at lyfrau.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMae mam Tia wedi cael swydd newydd fel milfeddyg ar ynys. Yno, mae llawer o\u003cbr\u003egreaduriaid angen ei chymorth.Pan gaiff y mam Tia ei galw i helpu buwch sy’n sâl ar ynys gyfagos, mae storm yn codi\u003cbr\u003eac mae Tia’n gaeth ar yr ynys.\u003cbr\u003eA all Tia ofalu am yr anifeiliaid sydd angen ei help yn y feddygfa? A beth yw’r creadur\u003cbr\u003erhyfedd sy’n cael ei olchi i’r traeth gan y storm.\u003cbr\u003eMae bywyd ar yr ynys yn llawn anturiaethau!\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eGILL LEWIS Bu’n gweithio fel milfeddyg ar draws y byd cyn dod yn awdur nifer o\u003cbr\u003enofelau i blant. Mae’i straeon yn aml yn cynnwys adar ac anifeiliaid ac yn procio\u003cbr\u003edarllenwyr ifanc i ystyried eu hamgylchfyd a gwarchod byd natur.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eELEN WILLIAMS Gwraig fferm o Lŷn sy’n gyn-athrawes, yn fam i dri o blant ac yn\u003cbr\u003eolygydd ac addasydd llyfrau plant gyda Gwasg Carreg Gwalch. Mae eisoes wedi\u003cbr\u003eaddasu un o nofelau Gill Lewis: Galwad yr Alarch.\u003cbr\u003e\u003cbr\u003e\u003c\/p\u003e","brand":"Gwasg Carreg Gwalch","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":57255310786935,"sku":null,"price":7.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0795\/2370\/9229\/files\/BartiaBwystfilyMor.jpg?v=1782998126","url":"https:\/\/carreg-gwalch.cymru\/products\/barti-a-bwystfil-y-mor","provider":"Gwasg Carreg Gwalch","version":"1.0","type":"link"}