{"product_id":"cwpwrdd-derw-dwynwen","title":"Cwpwrdd Derw Dwynwen","description":"\u003cp\u003eCasgliad o daith deuluol a hanesyddol Dwynwen Jones, Dyffryn Banw.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eRoedd Dwynwen Jones, gynt o'r Parc, Llangadfan yn gymeriad cwbl unigryw ac yn un a fu'n allweddol i ffyniant diwylliannol ardal Dyffryn Banw ar hyd ei hoes.  Roedd hi'n gerddor, yn arbenigwr cerdd dant, yn llenor ac yn warchodwr diwylliant a hanes heb ei hail.  Roedd hi hefyd yn fodryb annwyl iawn i Siân James.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eRoedd gan Dwynwen gwpwrdd derw arbennig yn llawn o hen lyfrau brau a phapurau rhydd, cerddoriaeth a hanesion teulu.  Rhannodd ei gynnwys i gyd â Siân, a aeeth ati i ddidoli'r deunydd a'i gyflwyno yn y gyfrol hon.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eY canlyniad yw casgliad o lên gwerin a thrysorfa o ddiwylliant lleol sydd o bwysigrwydd cenedlaethol.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003ca href=\"https:\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0795\/2370\/9229\/files\/cwpwrdd_derw_edrych_tu_mewn.pdf?v=1794385315\"\u003e\u003cspan style=\"color: rgb(43, 0, 255);\"\u003e\u003cem\u003e\u003cstrong\u003eEdrych tu mewn\u003c\/strong\u003e\u003c\/em\u003e\u003c\/span\u003e\u003c\/a\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cul\u003e\n\u003cli\u003eFformat: clawr meddal\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003eAwdur: Siân James\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003eISBN: 9781845248246\u003c\/li\u003e\n\u003c\/ul\u003e\n\u003cp\u003e\u003cstrong\u003eYr Awdur:  \u003c\/strong\u003e\u003cspan lang=\"CY\" style=\"color: black; mso-ansi-language: CY; mso-bidi-font-weight: bold;\"\u003eSiân yw un o gantorion cyfoes mwyaf blaenllaw Cymru ac un o’n prif arloeswyr ym myd cerddoriaeth traddodiadol. Cana’r delyn Geltaidd, mae’n bianydd o fri, ac mae’n gyfansoddwr. Mae ei dawn fel perfformwraig wedi mynd â hi i theatrau a gwyliau cerddorol ledled y byd, ac fe’i perchir fel un o’n prif lysgenhadon cerddorol. Erbyn hyn, rhyddhawyd deg albym o’i gwaith – casgliadau eclectig o ganeuon gwreiddiol a thraddodiadol, a gwmpasa’n emosiynau dyfnaf, o gariad a chwerthin i golled a’r byd ysbrydol.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp style=\"margin: 0cm; line-height: 150%;\"\u003e\u003cspan lang=\"CY\" style=\"color: black; mso-ansi-language: CY; mso-bidi-font-weight: bold;\"\u003e \u003c\/span\u003e\u003cspan lang=\"CY\" style=\"color: black; mso-ansi-language: CY; mso-bidi-font-weight: bold;\"\u003eYn enedigol o bentref Llanerfyl yn yr hen Sir Drefaldwyn, bu Siân yn cymryd rhan mewn eisteddfodau lleol o oedran cynnar iawn. Dechreuodd ganu’r piano yn 6 oed, cyn dod o hyd i’w llais wrth y delyn yn 11 oed. Tra’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion fe’i hysbrydolwyd gan ei hathrawes telyn, Frances Môn Jones i ddechrau arbrofi gyda threfniannau o ganeuon gwerin i’r llais a’r delyn. Aeth ymlaen i wyntyllu ei chariad at gyfansoddi wrth astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp style=\"margin: 0cm; line-height: 150%;\"\u003e\u003cspan lang=\"CY\" style=\"color: black; mso-ansi-language: CY; mso-bidi-font-weight: bold;\"\u003e \u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp style=\"margin: 0cm; line-height: 150%;\"\u003e\u003cspan lang=\"CY\" style=\"color: black; mso-ansi-language: CY; mso-bidi-font-weight: bold;\"\u003eMae hefyd yn adnabyddus am ei gwaith actio ar lwyfannau Cymru a theledu Cymraeg, gan gynnwys sioeau megis Enoc Huws a Llyfr Mawr y Plant; cyfresi megis Pengelli, Iechyd Da, Byw Celwydd; a’r ffilm Tylluan Wen. Bu’n arwain Parti Cut Lloi am gyfnod o ugain mlynedd – parti meibion a sefydlwyd i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod, 2003. Rhyddhawyd dau CD o’u gwaith hwythau ar label Recordiau Bos, sef Henffych Well, ac Y Dyn Bach Bach.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp style=\"margin: 0cm; line-height: 150%;\"\u003e\u003cspan lang=\"CY\" style=\"color: black; mso-ansi-language: CY; mso-bidi-font-weight: bold;\"\u003eMae ei hanturiaethau cerddorol diweddaraf yn cynnwys y grŵp Pedair, a’r ddeuawd biano Sonant.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\" align=\"center\" style=\"text-align: center; line-height: 107%;\"\u003e \u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e \u003c\/p\u003e","brand":"Gwasg Carreg Gwalch","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":57736116502903,"sku":null,"price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0795\/2370\/9229\/files\/CwpwrddDerwDwynwenClawrHI-RES215x148mm19mm5Hyd26.jpg?v=1794387122","url":"https:\/\/carreg-gwalch.cymru\/products\/cwpwrdd-derw-dwynwen","provider":"Gwasg Carreg Gwalch","version":"1.0","type":"link"}