{"product_id":"dan-warchae","title":"Dan Warchae","description":"\u003cp\u003e\u003cspan\u003eAchos cythryblus arall i’r Ditectif Jeff Evans yn nhref arfordirol Glan Morfa – y bymthegfed nofel dditectif i John Alwyn Griffiths ei hysgrifennu.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003ca href=\"https:\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0795\/2370\/9229\/files\/Dan_Warchae_LLYFR_Detholiad_y.pdf?v=1794430284\"\u003e\u003cspan style=\"color: rgb(43, 0, 255);\"\u003e\u003cem\u003e\u003cstrong\u003eEdrych tu mewn\u003c\/strong\u003e\u003c\/em\u003e\u003c\/span\u003e\u003c\/a\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cstrong\u003eBroliant\u003c\/strong\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMae ceiswyr lloches yn cael eu lletya mewn hen wersyll yn perthyn i’r fyddin ar gyrion Glan Morfa, ac mae protestiadau yn lleol ynghylch y sefyllfa. Pan gaiff merch ifanc leol ei threisio mae’r amheuaeth yn disgyn yn syth ar y tramorwyr, a chynyddu mae’r tensiwn yn y gymuned. Ceisia Jeff Evans a gweddill plismyn Glan Morfa lonyddu’r dyfroedd, ond yna caiff corff un o swyddogion diogelwch y gwersyll ei ganfod...\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cstrong\u003eAwdur\u003c\/strong\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMae John Alwyn Griffiths yn enedigol o Fangor, ond mae bellach yn byw ym Môn. Mna eweid ysgrifennu hunangofiant, Pleserau’r Plismon, a phedair ar ddeg o nofelau ditectif.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cstrong\u003eLleoliad\/cynulleidfa\u003c\/strong\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMae gan yr awdur gynulleidfa eang eisoes, a bydd y nofel hon yn addas iddyn nhw a darllenwyr newydd.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cstrong\u003eAdolygiad gan Marlyn Samuel\u003c\/strong\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eTeg yw deud bod John Alwyn Griffiths yn un o’n hawduron mwyaf cynhyrchiol yn y genre nofelau ditectif Cymraeg. Ers blynyddoedd bellach, cyn y Nadolig, mae yna hen edrych ymlaen am nofel newydd gan yr awdur. Yn ei nofel ddiweddaraf, Dan Warchae, y bymthegfed yn y gyfres ynglŷn â’r ditectif Jeff Evans, ni fydd ei ddilynwyr yn cael eu siomi.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eFel mae un cymeriad yn y nofel yn ei ddatgan sy’n wir, “ Mae ardal Glan Morfa i weld fel tasa hi’n fagnet i droseddau treisgar.” Dim gormodiaith ydi deud hynny, ac unwaith eto mae Jeff Evans yn ffeindio’i hun yn ei chanol hi.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eCefndir y nofel ydi bod yr hen wersyll sy’n perthyn i’r fyddin ar gyrion tref Glan Morfa yn cael ei defnyddio fel llety ar gyfer ceiswyr lloches. Achosa hyn gryn dyndra a gwrthdaro yn y dref gyda llu o brotestiadau yn lleol ynghylch y sefyllfa. A phan geir ymosodiad ar ferch leol, mae’r amheuaeth yn disgyn yn syth ar y tramorwyr ac mae’r tensiwn yn cynyddu. Mae Jeff Evans a gweddill plismyn y dref yn ceisio tawelu’r dyfroedd ond mae’r sefyllfa’n gwaethygu pan mae corff un o swyddogion diogelwch y gwersyll yn cael ei ganfod.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eFel yn ei nofelau blaenorol, mae John unwaith eto yn trin a thrafod materion a phroblemau cyfoes ac amserol sy’n digwydd yn y byd go iawn. Y tro hwn effaith ceiswyr lloches yn symud i mewn i’r ardal ac effaith hynny ar y gymuned a geir. Ymdrinnir hefyd â’r broblem gynyddol o gyffuriau anghyfreithlon sy’n dod yn fwy a mwy o broblem yn ein cymunedau.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eOs nad ydych chi wedi darllen y nofelau eraill, peidiwch â phoeni, mae’r nofel yma’n sefyll yn gadarn ar ei thraed ei hun. Mae’r awdur yn cyflwyno digon o gefndir i ni am y cymeriadau sy’n ailymddangos . Ac ydi, dwi’n falch o ddweud fod Nansi’r Nos yn ymddangos yn y nofel yma hefyd.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eFel cyn-dditectif ei hun, mae gan John adnabyddiaeth drylwyr o ddulliau'r heddlu o weithredu ac mae hynny’n rhoi hygrededd i’r stori. Mae’r nofel yn symud yn ei blaen yn rhwydd ac yn ddarllenadwy iawn a’r penodau byr yn cadw diddordeb y darllenydd .\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eCeir sawl tro a llinyn i’r plot ac mae pob un yn dod at ei gilydd yn gelfydd ar ddiwedd y nofel. Ac un peth dwi yn eich sicrhau chi: ar ôl i chi ddarllen y diweddglo mi fyddwch chi’n ysu i John gyhoeddi nofel arall yn y dilyn hynt y ditectif Jeff Evans.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMae hon unwaith eto’n glincar, yn llawn trais, dirgelwch a chyffro. Yn wir, mae John yn feistr ar y nofel dditectif Gymraeg. Byddai ei nofelau’n addasu’n wych ar gyfer cyfres dditectif apelgar ar S4C.  Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.\u003c\/p\u003e\n\u003cul\u003e\n\u003cli\u003eISBN: 9781845248024\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003eAwdur: John Alwyn Griffiths \u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003eCyhoeddi:  Tachwedd 2026\u003c\/li\u003e\n\u003c\/ul\u003e\n\u003cp\u003e \u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e \u003c\/p\u003e","brand":"Gwasg Carreg Gwalch","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":57738327032183,"sku":null,"price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0795\/2370\/9229\/files\/DanWarchaejpeg.jpg?v=1794431106","url":"https:\/\/carreg-gwalch.cymru\/products\/dan-warchae","provider":"Gwasg Carreg Gwalch","version":"1.0","type":"link"}