{"product_id":"huw-fyw","title":"Huw Fyw","description":"\u003cp\u003e“Paid byth â trio dy ora, cofia hynna, ella neith o safio dy fywyd di.”\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cbr\u003eDyma stori wir (wel, gwir-ish) am Huw – neu Huw Fyw fel mae pawb yn ei alw fo, ers i’r Huw arall yn y pentra farw yn yr Ail Ryfel Byd.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eDydi Huw Fyw ddim yn coelio mewn ffawd.  A dydi o ddim yn coelio mewn gwenu chwaith… na gwastraff, nac unrhyw beth sy’n gofyn iddo godi o’i gadair.  Ond ar ôl tro lwcus, mae Huw yn cychwyn ar antur fythgofiadwy o’i bentra bach i ganol Llundain; antur fydd yn newid cyfeiriad ei fywyd am byth ac yn dysgu iddo sut i fyw at heddiw, heb anghofio’r gorffennol.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e80 mlynedd ers i’r Ail Ryfel Byd ddod i ben, dyma sgript drama lwyfan gyntaf Tudur Owen am obaith, diogi a sut mae gwneud 4 paned gydag un bag te!\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMae'r gyfrol yn cynnwys sgript gyflawn y ddrama, Rhagair gan Tudur Owen, pennod gan Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru a chyfarwyddwr y cynhyrchiad llwyfan, a deunydd atodol ar gyfer ysgolion a cholegau.\u003cbr\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cul\u003e\n\u003cli\u003e\u003cspan class=\"biblio_isbn\"\u003eISBN: 9781845248208\u003c\/span\u003e\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003e\u003cspan class=\"biblio_pub_date\"\u003eCyhoeddi: Ebrill 2026\u003c\/span\u003e\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003e\u003cspan class=\"biblio_format\"\u003eFformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 150 tudalen\u003c\/span\u003e\u003c\/li\u003e\n\u003c\/ul\u003e","brand":"Gwasg Carreg Gwalch","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":56993744683383,"sku":null,"price":8.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0795\/2370\/9229\/files\/HuwFywHI-RES198x128mm8mm25Maw26ii.jpg?v=1775723119","url":"https:\/\/carreg-gwalch.cymru\/products\/huw-fyw","provider":"Gwasg Carreg Gwalch","version":"1.0","type":"link"}