{"product_id":"menywod-anweledig","title":"Menywod Anweledig","description":"\u003cp\u003e\u003cspan\u003eNofel ddystopaidd wedi’i gosod yn yr Unol Daleithiau yn y dyfodol agos, yn dilyn merched ifanc sy’n gorfod dilyn trywydd tanddaearol i fynnu’r hawl i ddewis beth sy’n digwydd i’w cyrff eu hunain.\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eYn Unol Daleithiau America yn y dyfodol agos, mae bywyd yn mynd yn gynyddol anoddach. Mae’r Wladwriaeth yn dilyn pob symudiad, a hawliau menywod yn diflannu, hyd yn oed dros eu cyrff eu hunain. Wrth iddiganfod ei hun mewn sefyllfa argyfyngus, mae’n rhaid i un ferch ifanc roi ei ffawd yn nwylo criw o ymgyrchwyr tanddaearol...\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003ca href=\"https:\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0795\/2370\/9229\/files\/Menywod_Anweledig_Detholiad.pdf?v=1794403201\"\u003e\u003cspan style=\"color: rgb(43, 0, 255);\"\u003e\u003cem\u003e\u003cstrong\u003eEdrych tu mewn\u003c\/strong\u003e\u003c\/em\u003e\u003c\/span\u003e\u003c\/a\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cstrong\u003eAwdur:  \u003c\/strong\u003eMagwyd Rebecca Roberts yn Mhrestatyn. Ers iddi raddio o Brifysgol Bangor gyda gradd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol mae wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, gweinydd dyneiddiol a chyfieithydd.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eDerbyniodd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn 2017 er mwyn datblygu #Helynt, nofel i bobl ifanc a a enillodd wobr Tir Na n-Og a Llyfr y Flwyddyn. Mae hi wedi cael ei mentora yn ei gwaith creadigol gan Bethan Gwanas a Manon Steffan Ros. Cyfrannodd ysgrif i’r gyfrol O, Mam Bach (Gwasg y Bwthyn, 2017) ac mae wedi dod i’r brig sawl tro mewn cystadlaethau ysgrifennu yn Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae ei gwaith wedi cael ei ddarlledu ar Radio Cymru a pherfformiwyd sgript fer o’i heiddo gan gwmni cynhyrchu.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eY nofel gyntaf iddi ei chyhoeddi oedd Mudferwi yn 2019, a chafodd nofel Saesneg o’i gwaith i bobl ifanc, Eat. Sleep. Rage. Repeat, ei chyhoeddi gan Gomer yn 2020. Cyhoeddwyd #Helynt, ei nofel gyntaf i bobl ifanc yn y Gymraeg, hefyd yn 2020, a’r dilyniant, Mwy o Helynt, yn 2023. Cyhoeddwyd Chwerwfelys, dilyniant i Mudferwi, yn 2021, a Curiad Gwag yn 2022. Mae cyfieithiad o Curiad Gwag, Rock on the Road, wedi ei gyhoeddi, a chyhoeddwyd y dilyniant, Diwedd y Gân, yng ngwanwyn 2025.\u003c\/p\u003e\n\u003cul\u003e\n\u003cli\u003eISBN: 9781845279929\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003eAwdur: Rebecca Roberts\u003c\/li\u003e\n\u003c\/ul\u003e\n\u003cp\u003e \u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e \u003c\/p\u003e","brand":"Gwasg Carreg Gwalch","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":57737274392951,"sku":null,"price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0795\/2370\/9229\/files\/MenywodAnweledigokClawr.jpg?v=1794403497","url":"https:\/\/carreg-gwalch.cymru\/products\/menywod-anweledig","provider":"Gwasg Carreg Gwalch","version":"1.0","type":"link"}